IOB XXIX.
Iob yn hiraethu am y gwynfyd gynt. 12 Yn datcan ei fuchedd. 21 Ac yn mynegu ei barch.
1. YNa Iob a barablodd trachefn, ac a ddywedodd,
2. Oh na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen: fel yn y dyddiau pan gadwe Duw fyfi.
3. Pan wnae efe iw oleuni lewyrchu uwch fy mhen: wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch.
4. Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuengtid, ac ymgeledd Duw ar fy mhabell.
5. Pan [oedd] yr Holl-alluog etto gyd a mi a'm llangciau o'm hamgylch.
6. Pan olchid fy nhraed ag ymenyn: a [phan] dywallde y graig arnafi afonydd o olew.
7. Pan awn i allan i'r porth trwy'r dref: parwn baratoi fy eisteddfa yn yr heol.
8. Llangciau a'm gwelent ac a ymguddient: a henuriaid a gyfodent, ac a safent.
9. Tywysogion a attalient eu ymadroddion: ac a osodent [eu] llaw ar eu genau.
10. Pendefigion cymmen a ymguddient: ai tafod hwy a lyne wrth daflod eu genau.
11. Canys y glust [a'm] clywe a'm bendithie: a'r llygad [a'm] gwele a destiolaethe o honof.