22. Dymma un peth, am hynny y dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith fel уг annuwiol.
23. Er lladd o honaw ef a ffrywyll yn ddisymmwth: a watwar efe am benn cospedigaeth rhai dinwed.
24. Y ddaiar a roddwyd yn llaw'r annuwiol, efe a fwrw hûg dros wynebau ei barn-wŷr hi onid e, pa le [y mae efe a] phwy [yw efe a ddengys y gwrthwyneb ?]
25. A'm dyddiau mau fi fuant gynt na rheddeg-wr: ffoasant heb wêled daioni.
26. Aethant heibio [megis] gyda llongau buan: megis yr eheda eryr at ymborth.
27. Os dywedaf, gollyngaf fyng-hwyn dros gof: mi a adawaf fy nigllondeb, ac a gryfhâf.
28. [Yna yr] ofnaf fy holl ddoluriau gwn na'm berni yn wirion.
29. [Os] euog fyddaf: pa ham yr ymflinaf felly yn ofer ?
30. Os ymolchaf mewn dwfr eira: ac [os] glanhaf fy nwylaw yn lân:
31. yna di a'm trochi mewn pwll: a'm dillad a'm drewant.
32. Canys nid gŵr fel myfi [ydyw yr hwn] ymae yn rhaid i mi ateb iddo ef, [pan] ddelom yng-hyd i'r farn.
33. Nid oes rhyngom ni ddyddiwr [yr hwn] a osodo ei law arnom ein dau.