5. A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura fel y cydwelo pob cnawd mai genau'r Arglwydd a lefarodd [hyn].
6. Llef a ddywedodd [wrth y prophwyd,] gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf, [bod] pob cnawd yn wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeun y maes.
7. Gwywodd y gwelltyn [a] syrthiodd y blodeun, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno, gwellt yn ddiau [yw] 'r bobl.
8. Gwywodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeun, a gair ein Duw ni a saif byth.
9. Dring rhagot yr efangyles Sion i fynydd uchel, derchafa dithe dy lef trwy nerth ô efangyles Ierusalem: derchafa nac ofna, dywed wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi.
10. Wele'r Arglwydd Dduw a ddaw'n erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha arno ef, wele ei obrwy gyd ag ef, a'i waith o'i flaen.
11. Fel bugail y portha ef ei braidd, a'i fraich y cascl ei ŵyn, ac [a'i] dwg yn ei fonwes, ac a goledda y mamogiaid.
12. Pwy a fessurodd y dyfroedd yn ei ddwrn? ac a fessurodd y nefoedd ài rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaiar mewn messur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwys, a'r brynnau mewn cloriannau?