Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GRUFFUDD ROBERTS

Ychydig o hanes Gramadegwr boreuaf Cymru sydd ar gael. Cyhoeddwyd ei brif waith,

DOSPARTH BYRR AR Y

rhann gyntaf i ramadeg cymraeg

lle cair llawer o bynciau an-

bepcor i un chwen-

nychai na doedyd

y gymraeg yn ddilediaith, nai

scrifennu'n iawn,"

yn 1567, ym Milan; fel y gellid tybied ei fod ym mlodau ei oes pan ddechreuodd y Frenhines Elizabeth deyrnasu. Yr oedd felly yn gyd-oeswr a William Salsbri, a megis mai Protestant poeth oedd cyfieithydd y Testament Newydd, felly Pabydd llwyr oedd awdwr y Gramadeg. Feallai fod y ddau yn adnabod eu gilydd, canys mae'n sicr mai brodor o Ogledd Cymru oedd Gr. Roberts. Y mae dullwedd ei iaith a'r mynych gyfeiriadau at rannau o'r Gogledd yn profi hynny. Dywed mewn un man am ei hiraeth am "lan y Ddyfrdwy" a "llawr Dyphryn Clwyd." Mewn lle arall, pan y mae ef a'i ddisgybl yn ymddiddan am ysgrifennu gramadeg, dywed ei ddisgybi (mae'n debyg Rhosier Smyth, o Lan Elwy), "Mi a'm clywn fy hun yn cynhessu oddimewn a'm calon yn cyrchnneittio yn fynghorph o wir lawenydd wrth wrando ar draethu Bruttaniaeth yn'r Eidal megis pe buaswn ynghanol Gwynedd." Fe ysgrifennodd Gruffudd Roberts amryw lyfrau eraill -yr oll at wasanaeth pabyddion Cymru, pan yr oedd yn gyffeswr i Cardinal Borromeo, ym Milan.

Yr wyf yn cyhoeddi rhannau helaeth o'i "Ddosparth Byrr" oherwydd prydferthwch ei arddull ac ystwythder ei iaith. Yr oedd ei gariad at Gymru a'i hanes a'i hachos yn angerddol, a gwnaeth