Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadw rhag pelydr yr haul, a'r gwynt arafaidd o'r gogledd yn oeri, ag yn difyllu y rhodfa a'r eisteddfa hon, fal na bo cyn flined arnom ganol dydd, ag a fu y dyddiau aeth heibio.

Mo. Er bod yn deg y fangre lle'r ydym, ag yn hyfryd gweled y dail gwrddleision yn gyscod rhag y tes, ag yn ddigrif clowed yr awel hon or gogleuwynt yn chwythu tan frig y gwynwydd i'n llawenychu yn y gwres anrhysymol hwn sydd drwm wrth bawb a gafodd i geni ai meithrin mewn gwlad cyn oered ag yw tir cymru: etto mae arnaf hiraeth am lawer o bethau a gaid ynghymru i fwrw'r amser heibio yn ddifyr ag yn llawen wrth ochel y tês hir- ddydd haf. Canys yno, er poethed fai'r dymyr, ef a gaid esmwythdra a diddanwch i bob bath ar ddyn. Os byddai un yn chwennychu digrifwch e gai buror ai delyn i ganu mwyn bynciau, a datceiniad peroslau i ganu gida thant, hwn ai fynnychwi ai mawl i rinwedd yntau gogan i ddrwgcampau. Os mynnych chwithau glowed arfer y wlad yn amser yn teidiau ni, chwi a gaech henafgwyr briglwydion a ddangossai iwch ar dafod laferydd bob gweithred hynod a gwiwglod a wnaethid drwy dir cymru er ys talm o amser. talm o amser. Ond os myfyrio a ddamunech ne ddarllain ar ych pen ych hun, chwi a gaech ddewis lle cymwys i hynny, er