Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgol, yr oedd A ar ewin un fawd imi, a B ar ewin y fawd arall; a'm tasg am yr wythnos oedd cofio'r ddwy lythyren hyn. Yr oedd gen i ystraeon mwy difyr na'r A a'r B, ond rhoid taw arnaf mewn munud pan soniwn am flodau drain neu nyth dryw. Daeth diwedd yr ysgol, ac er fy llawenydd dyma hwy'n dechre canu pennill fedrwn, yn araf araf fel swn y gwynt. Yr oedd golwg henaidd arnaf finnau'n treio canu, er mawr ddifyrrwch i'm cyfoedion, —


"Dewch hen ac ieuanc dewch,
At Iesu, mae'n llawn bryd;
Rhyfedd amynedd Duw
Ddisgwyliodd wrthym cyd;
Aeth yn brydnawn, mae yn hwyrhau,
Mae drws trugaredd heb ei gau."

Hyd yn hyn yr oeddwn wedi bod yn weddol ddi-brofedigaeth. Ond wrth fynd adre, cofiais am fy nillad newyddion, a betiais a bachgen pengoch fod gennyf fwy o fotymau nag ef, — hen lafn cyllell yn erbyn reel wedi ei gwneyd yn dop sgwrs oedd y fet. Yr oeddwn wedi cyfri holl fotymau fy nillad newyddion, a'r botwm oedd ar fy nghap, ond yr oeddwn ddau fotwni ar ol. "Dangos fotyme dy wasgod," ebe un o'r bechgyn. Yr oedd dau fotwm ar fy nghrys; a mentrais ddangos nad oedd gennyf wasgod, er mwyn cael cyfrif y rheini. Ond ni fedrai yr un o honom gau'r gôt yn ei hol. Dywedais yr hanes yn onest wedi mynd adre, a chefais fy chwipio, am falchder, ac am fetio ar ddydd Sul. Ar ddiwrnod gwaith nid wyf yn cofio i mi fod yn segur erioed cyn mynd i'r ysgol. Pan na fyddwn yn gwneyd da, byddwn wrthi â'm holl egni'n gwneyd drwg. Er hyn yr oedd awydd adeiladu yn gryfach ynnof nag awydd