tynnu at y terfyn, ac yr oedd yntau mewn perygl. Byr iawn oedd y pen olaf, a chlywais un gair ddeallais, sef pin. Wrth glywed y gair, troais yn sydyn i edrych ar yr ysgol feistres. Yr oedd ei llygad arnaf, ond ni wyddwn pam. Gofynnwyd cwestiwn, a bu distawrwydd perffaith am eiliad. Yna daeth llais y bachgen hwnnw, yn cyhoeddi mewn ateb i'r cwestiwn, — "Ab Owen." Wrth glywed f'enw, troais yn anesmwyth yng nghyfeiriad y wialen. Er fy mod yn anwybodus ac yn hollol ddiniwed, yr oedd rhyw feddwl ynnof y byddai'r wialen honno a minnau'n agosach at ein gilydd cyn hir. Ni fedrwn achub fy ngham, oherwydd condemniwyd fi yn Saesneg, ac ni wyddwn amcan paham yr oedd y wialen i ddisgyn arnaf hyd nes yr oedd yn rhy hwyr i apelio at neb. Ni waeth i mi heb ddesgrifio'r gosb, — hwyrach fod rhai'n darllen y llinellau hyn heb fod gyrraedd cosb gyffelyb, — ond gallaf ddweyd hyn, y buasai'n llawer gwell i mi fod wedi eistedd ar y pin, a chael fy nghosbi am gadw swn. Yr oedd gan yr ysgolfeistres feddwl uchel o lywodraethwyr yr ysgol, yn enwedig o'r person, — os oeddwn i fesur ei pharch oddiwrth ei sel i gosbi.
Trwy weddill y prydnawn bum yn wylo ac
yn ochain ac yn cynllunio bradwriaeth. Nid
ydyw cosb yn gwneyd neb yn well. Y mae'n
debyg fod rhyw gymaint o'r bwystfìl mewn
plentyn, a dadblygodd y wialen lawer arno
ynnof fi y prydnawn hwnnw. Mwyn i mi fuasai cael
gosod pinnau dan filoedd o bobl, er nad
oedd y syniad erioed wedi cael lle yn fy meddwl
o'r blaen. Esboniasid i mi gan yr ysgolfeistres
tra'r oedd y wialen uwch fy mhen, mewn Cymraeg
lledieithog, paham yr oedd y gosb i ddisgyn arnaf.
Meddyliwn innau yr hoffwn roi pin