Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

" Roedden nhw yn yr ysgol hefo'u gilydd, ac yn gariadau yr amser hwnnw," ebe'r eneth, gan gyfeirio at hanes y bydd merched bach yn cymeryd mwy o ddyddordeb ynddo na bechgyn bach. Gofynnais yn bryderus a oedd gan yr athraw blant, a da iawn oedd gennyf glywed nad oedd ganddo yr un. Tybiwn mai tynged anedwydd oedd un plant athraw, — bod gydag ef ddydd a nos !


Erbyn hyn, prin y rhaid i mi ddweyd, y mae fy meddwl wedi newid am sir Aberteifì ac am blant ysgolfeistr. Pe bawn yn llywodraethu ysgol ac yn dewis athraw, dewiswn un gyda gwraig a phlant. Y syndod i mi ydyw pa ham y mae athrawon di-briod yn medru deall plant cystal. Ond yr wyf yn sicr o hyn, na wyddant ond elfennau eu celfyddyd hyd nes y bont wedi ymdrafferthu gyda'u plant eu hun. Y mae cyd- ymdeimlad a gwybodaeth, — rhai gwerthfawrocach na thrysorau pennaf ysgol a choleg, — yn dod yn feddiant i'r athraw ; ac y mae pob enaid bach sydd dan ei ofal yn ymddangos yn gan mil gwerthfawrocach nag erioed o'r blaen.


Y prydnawn buom yn dysgu darllen, trwy ddweyd geiriau ar ol bachgen ddaeth i'n dysgu. O x; ox; o n on; a t at, — mi dybiaf glywed ugain o leisiau'n swnio yn fy nghlustiau y funud hon. Mor wahanol yw'r lleisiau heddyw! Y mae dau'n cyhoeddi'r efengyl, y mae un yn melldithio Duw a dynion, y mae mwy nag un wedi tewi am byth. Ni wyddem, wrth gwrs, beth oeddym yn ddweyd. "Dysgu allan " fel parot oedd unig ystyr y gair dysgu; nid oedd deall a dysgu meddwl yn rhan o addysg y dyddiau hynny o gwbl. Ein dysgu i wneyd swn heb feddwl iddo, a'n dysgu i siarad heb ddeall, — dyna'r dysgu gawsom ni.