Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi torri 'i penne, a'r hen Aber Gwaun yn i cateceisio nhw, — 'Bobol, shwd fu hi yn y ffair heddi?' O'r diwedd aeth y bobol i waeddi gormod, ac ebe'r pregethwr, — ' Bobol, mae hi'n rhy boefth i fewn, ni drown i fâs.' Mi agorodd rhywun y ffenest, a dacw ynte'n pregethu i'r bobl oedd allan, a'r gorfoleddwrs yn gorfoleddu y tu mewn."


"Fu Ebenezer Richards yn cysgu yn swn yr hen gloc?"


"Do lawer gwaith. Y fo bedyddiodd fi. Mi fydde'n dwad bob amser o flaen Sasiwn y Bala. Dene'r un a'r golwg mwya bonheddig o honyn nhw i gyd. 'Rydw i'n i gofio fo'n rhyfedd iawn ar ddyledswydd un bore. Yr oedd Ifan Rhys hefo fo, y canwr mwyna glywes i erioed. Y bora hwnnw 'roedd Ifan Rhys yn ledio'r canu ar ddyledswydd, a Marged a Chatrin a ninne'n canu hefo fo, —


Bydd pawb o'r brodyr yno'n un
Heb neb yn tynnu'n groes.


'Roedd yr hen Stifin tu hwnt i'r bwrdd, a fu ond y dmi iddo fo dowlu 'i glocs, a gorfoleddu ar ganol y llawr."


"Fuo Thomas John ym Mhen y Geulan?"


"Diar do, droion. Un hyll iawn oedd Tomos John — dyn tal esgyrnog, hirdrwyn, hirglust, aelie trymion, a gwyneb wedi rychu gen y frech wen. Ond yn y pulpud 'roedd o'n mynd yn hardd dan ych llygied chwi. Mi fydde Tomos Llwyd yn deyd mai angel oedd o, ac nid dyn. 'Roedd genno fo ddarn yn i bregeth am gloc. "Beth ydi uffern, bobol,' medde fo, 'ond cloc a'i fysedd wedi sefyll ar hanner nos, ac yn tician Byth! Byth. Mi fu llawer pregethwr