y ddaear," ebe Enoc, dan dynnu hynny fedre fo yn y ffrwyn, a'i holl fryd ar y ceffyl anhyweth, "gofynnwch iddo fo."
" Oedd Enoc Ifan yn bregethwr da?"
"Roedd o'n ddarllennwr da iawn, ond 'doedd o fawr o bregethwr. 'Rydw i'n cofio
disgwyl mawr am John Jones Talysarn ryw fore Sul o Fowddu; 'roedd Sion Ifan wedi mynd i ben Bwlch y Groes i'w gyfarfod o. O'r diwedd mi ddoth at y capel, ac yr oedd Enoc Ifan i ddechre'r odfa o'i flaen o, yn fyr fyr. Mi gymerodd Enoc Ifan i amser i ddechre, ac wedyn, yn lle mynd i lawr o'r pulpud, gael i John Jones godi, mi gododd i lygied ar y bobol, ac ebe fo, — "Mi wela fwy o honoch chwi nag y fydd yn dwad i ngwrando i, 'rydw i'n meddwl y pregetha i dipyn bach i chwi." Ac mi bregethodd am hir."
"Ffei hono, 'does na chwaeth na theimlad mewn pregethwr wna dro felly. Mae'n debyg fod Enoc Ifan yn gwybod nad oedd o ddim yn gymeradwy, ac wedi mynd i hidio dim beth oedd pobol yn feddwl o hono. "
"Fachgen. rwyt ti'n camgymeryd. Paid a barnu'n galed, mae'r natur ddynol yn llawer gwell nag y medri di i gweld hi. Dyn llawn o deimlad oedd Enoc Ifan ac os esgeulusid o, mi fydde'n teimlo i'r byw. 'Roedd o ar i wely marw, os ydw i'n cofio'n iawn, ar adeg Sasiwn y Bala. Ychydig o'r pregethwyr a'r blaenoried oedd yn mynd i edrych am dano, — llai nag oedd o'n ddisgwyl. "Wel, wel," medde ynte, "mi fedran 'neyd yn Sasiwn y Bala hebdda i; ond fedran nhw ddim gneyd hebddai yn y Nefoedd." Ac ni fedren nhw ddim gneyd yn y Nefoedd heb Enoc Ifan chwaith."