Hunodd yn dawel, fel y syrth plentyn i gysgu. Gwelais fod angeu yno, ond fel gwas Brenin Heddwch. Ni ddychrynnodd fy nhad, ac ni ddychrynnodd finnau. Ond gwnaeth yr hen gartref yn oer pan roddodd derfyn i fywyd di-wenwyn yr ysbryd addfwyn hwnnw.
Troais i edrych trwy'r ffenestr. Yr oedd y bore'n llwyd dorri, ac yr oedd rhyferthwy ystorom yn cuddio'r mynyddoedd mawr. Lluchid y cymylau yn ddarnau yn erbyn y creigiau gan y gwynt, a rhuthrai aberoedd gwylltion ewynog hyd y llethrau serth ar fy nghyfer. Gwyrai'r coed mewn ofn o flaen ysbryd yr ystorm; ac fel y cryfhai'r wawr, danghosai'r dydd agwedd newydd ar ryfel yr elfennau. Mynych, pan yn blentyn, y bum yn syllu ar ruthr yr ystormydd oddiar fraich fy nhad. Ond dyma ddydd wedi torri y rhaid i mi edrych arnynt fy hun.
"Ni wna dim i ddyn deimlo nas gall wneyd heb Dduw," ysgrifennodd cyfaill ataf, "fel colli tad. "Er cymaint o wirioneddau tarawiadol ddywedodd y cyfaill hwnnw yn ei oes, ni ddywedodd ddim byd mwy gwir na hyn.