Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Simon Llwyd, Charles o'r Bala, Tegidon, Dr. Edwards, Dr. Parry, a loan Pedr.

Pan ddaw'r ymdeithydd i fyny tua'r Bala o ddyffryn Edeyrnion, daw gan dybied, y mae'n debyg, na fedr byth weled lle mor dlws a'r Llangollen y mae newydd adael ar ei ol. Ond gwêl fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, ac nid yr un yw prydferthwch ardaloedd y Bala a phrydferthwch y cymoedd sydd o amgylch Llangollen. Y mae'r golygfeydd hyn yn fwy mynyddig, ac y mae'r lliwiau'n wannach, — ond nid yn llai prydferth er hynny. Y mae pob peth yn wylltach, a disgwyliwn glywed y gorncohwiglen uwch ein pen, ac nid eos mewn llwyn gerllaw.

Ddarllennydd, a ddoi di am dro i'r Bala ? Medraf dy sicrhau na fydd yn edifar gennyt, er nad oes iti ond un dydd gwyl yn y flwyddyn, os wyt y peth yr wyf fi wedi arfer meddwl dy fod. Y mae llawer ffordd i fynd i'r Bala, — i lawr o Ddolgellau gyda minion y llyn, dros yr Arennig unig ac i lawr gydag afon Tryweryn, dros y mynydd o sir Drefaldwyn a thrwy Aberhirnant ramantus, neu i fyny ar hyd dyffryn y Ddyfrdwy. Gelli gael tren bob ffordd ond trwy Aberhirnant.

Gwell i ni ddod i fyny dyffryn y Ddyfrdwy hwyrach; a dywed ein bod yn cyflymu heibio i Grogen cyn wyth o'r gloch ar fore haf. Dyma ddyffryn gweddol eang o'n blaen, ac ar yr olwg gyntaf y mae'n anodd dweyd pa un ai dôl ai rhosdir ydyw. Dacw bantle ar ein chwith, dy- wed traddodiad mai dyna gartref olaf Llywarch Hen, a "Phabell Llywarch Hen" y gelwir y llecyn ar lafar gwlad. Dros y Ddyfrdwy sy'n ymddolennu'n araf drwy'r dyffryn gwastad.