Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall, rhyngddi a'r dre, erys y llecyn lle cynhelid sasiynau enwog y Bala yn y dyddiau fu. Y mae prydferthwch yn perthyn i'r Green ar wahan i'r adgofìon sydd ynglyn a hi. Y mae'r Domen, — beddrod aruthrol neu wylfa, — yn edrychi lawr arni; y mae bryniau prydferth fel pe heb dynnu eu trem oddiarni byth er pan glywid sain gorfoledd oddiwrth ei thyrfaoedd; a thros ei gwyneb gwyrdd gwelir Llyn Tegid, weithiau'n las a thawel, dro arall yn donnau brigwyn carlamus.

Beth amser yn ol, danghosodd cyfaill i mi ddarlun o sasiwn ar y Green; nis gwn gwaith pwy oedd, ond dywedid ar ei waelod y cyhoeddid ef yn 1820 gan S. Evans, Llansantffraid. Nid ydyw yn rhoi syniad rhy gywir am y sasiynau, fel y gwelais i hwy. Y mae'n anodd meddwl fod cymaint o segurwyr difraw ar ymylon y dorf tra y mae John Elias neu John Jones Talysarn neu William Roberts Amlwch neu John Evans Llwynffortun neu Ebenezer Morris Tŵr Gwyn yn y pulpud.

Y mae Huw Alyfyr wedi tynnu cywirach darlun yn ei gân, —

"Fel aeddfed faes o liaidd
Ymdonnai'r dyrfa,
-Mewn dwyfol nefolaidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pan chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf
O ben Calfaria."


Llawer tro y bu awel yn gwasgaru peraroglau o ardd yr Anwylyd dros eneidiau deffroedig ar y llecyn hwn, fel y mae awel hafaidd dyner yn