Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y golwg.[1] Y mae enwau ereill ar y stryd- oedd erbyn hyn, "High Street" byth a hefyd ; ond nid oes i'r enwau Saesneg le ond ar bren ac ar bapur, ar filiau ac ar adroddiadau cymdeithasau dyngarol. "Y Stryd Fawr," "y Groes," a'r "Stryd Fach" yw'r enwau arferedig. A buasid yn disgwyl gweled enwau Cymraeg ar ystrydoedd y Bala, yn anad un man. Nid oes rhyw lawer o bobl ar y stryd. Y mae'r bore tlws yn ymloewi o hyd, ond y mae'n amlwg mai lle tawel iawn ydyw'r Bala, ond ar ddiwrnod sasiwn. Ar yr ystryd dacw un gŵr yn dod. Y mae ffon yn ei law, ac y mae'n pwyso arni, er mai prin y gellir tybio ei fod yn gloff. Y mae het lwyd uchel, a golwg fonheddig arni, ar ei ben; y mae lliw goleu prydferth ar ei ddiliad, dillad wedi eu lliwio yn yr hen fíasiwn â çhen cerrig; ac y mae'n gwisgo clos pen glin, sanau bach, ac esgidiau isel.

" Helo, dyma un o hen wŷr bonheddig hen Gymru."

" Ie, yn sicr. A gwyn fyd na chaem ychwaneg o wŷr bonheddig tebyg iddo."

" Clywais ddweyd eich bod chwi'n credu mewn boneddigion. Ond gwerinwr, cofiwch, wyf fi."

"Gwerinwr wyf finnau, i'r carn. Ond 'pe caem foneddigion fel hyn, boneddigion fel llawer hen foneddwr yn y dyddiau fu, credwn ynddynt. Clywais un o dirfeddianwyr mwyaf yr Iwerddon yn dweyd yn ddiweddar na chredai un gair ddywedai ei Wyddelod wrtho. Nid wyf yn credu fod gan hwnnw hawl i fyw ar draul y

  1. Erbyn hyn y mae ei athrawon wedi symud i'r bedd neu i Fangor.