Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y ffurf y gwelir hwynt yma. Buasai eu troi i arddull arall, ond odid, yn gam a'u hysgrifenydd. Nid oedd arno ef ddim ofn i'w olygiadau gael eu profi wrth safon y Beibl a rhesymeg, ac nid oes ar y rhai sydd yn barnu yn gyffelyb iddo, ddim ofn y prawf mwy nag yntau. Amcan y cofiant. ydyw dangos beth oedd golygiadau yr Hen Olygydd, ar rai o byngciau Duwinyddiaeth, ac nid profi eu cywirdeb, na'u hannghywirdeb. Gadewir hyny, yn bur dawel, i'r rhai a ewyllys- iont eu dwyn at y safon, ac i benderfyniad y dydd a ddaw. 4. Bu y llyfr yn hwy nag y buasai yn ddymunol yn cael ei ddwyn allan drwy y wasg, ond ni fu dim ocdiad, a allesid ei hebgor, yn hyny chwaith. Ond er byred yw yr amser er pan hunodd yr hybarch Cadwaladr Jones, y mae lluaws o gawri y weinidogaeth wedi disgyn i byrth y bedd ar ol ei ymadawiad ef, ac yn eu plith, rai y mae eu nodiadau yn y llyfr hwn. Y mae eraill yn tynu tua phen eu taith, a'r "nos yn dyfod;" ond yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," a'i ewyllys ef a wneler, yn mhob peth.

Y GOLYGYDD.

Mawrth 23, 1870.

O.Y.—Dymuna y Cyhoeddydd gydnabod caredigrwydd awdwyr y gwahanol ysgrifau yn y cofiant hwn, a'u parodrwydd i gynorthwyo yn nygiad allan y gwaith. Yr oedd amryw frodyr eraill, a chydlafurwyr â'r "Hen Olygydd," y buasai yn hoff ganddynt ychwanegu eu teyrnged o barch i'w goffadwriaeth; ond buasai cyhoeddi eu hysgrifau yn chwyddo maint a phris y llyfr y tu hwnt i'r terfynau a fwriadwyd ac a drefnwyd o'r dechreuad; felly, bu raid gadael cynyrchion amryw o'r neilldu, er mor dda fuasai ganddo eu dodi i mown. Y mae rhai gwallan argraphyddol wedi diane er pob gofal, ond nid ydynt ond ychydig a dibwys.