Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn seiliedig ar anfeidroledd yr Iawn, daliai, yr un mor gadarn, Fachniaeth Crist dros yr eglwys, a'i fod wedi ymrwymo i ddwyn y dorf ddirif a roddwyd iddo gan y Tad, i dderbyn y cymmod, ac i fyw bywyd santaidd ar y ddaear, ac i'w gogoneddu yn y diwedd, a'r cwbl mewn perffaith gysondeb â gogoniant ac anrhydedd gorsedd a llywodraeth y Brenin mawr. Yr oedd ei olygiadau ar Fachniaeth Crist dros yr eglwys yn gyffelyb i'r eiddo ei gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair, y rhai a geir mewn pregeth o eiddo y gwr enwog hwnw, yn y Dysgedydd am Hydref, 1827. Dywed yn ei lythyr at y Parch. John Elias, mewn amddiffyniad i'r Ymneillduwyr,— "Fod Duw er tragwyddoldeb, wedi bwriadu achub y rhai oll a achubir ganddo—Fod gan Iesu wrth farw, olwg neillduol ar rhai a gedwir (er ei fod yn Iawn anfeidrol ddigonol i achub yr holl fyd, ac yn gyfrwng gweinyddiad pob daioni y mae'r holl fyd yn ei gael gan Dduw) i gael etifeddu iechydwriaeth." Afreidiol yw i ni ymhelaethu ar y mater hwn.

Am ddylanwad yr Ysbryd Glân, yr angenrheidrwydd am dano, a'r gwirionedd pwysig mai trwy y dylanwad hwnw, mewn cysylltiad â'r efengyl a moddion moesol eraill, y dychwelir ac y santeiddir pechaduriaid, yr oedd golygiadau Mr. Jones yn oleu, ac yn hollol benderfynol. Nid rhyw rith o ddylanwad dwyfol, i dwyllo y werin, a ddaliai ef allan, ond dylanwad sicr—effeithiol ac uniongyrchol Ysbryd yr Arglwydd ar galon pechadur, yn goleuo y deall, yn ysgogoi yr ewyllys heb ddim trais, yn agor y galon i ddal ar y pethau, ac yn dwyn dynion trwodd yn deg o farwolaeth i fywyd. Mewn sylwadau golygyddol ar y mater hwn, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—"Gwyddom am rai o'r awdwyr mwyaf dysgedig, deallus, a chyfrifol, yn gwahaniaethu yn eu barn yn nghylch y modd y mae y dduwiol anian yn cael ei phlanu yn yr enaid. Rhai a ddywedant, mai trwy y gair, fel moddion, y mae hyn yn cymeryd lle. Gwel Eiriadur y Parchedig Thomas Charles, tan y gair Adenedigaeth. Eraill a ddywedant, mai mewn modd digyfrwng y cymer hyn le; megys y rhai a enwyd uchod, &c., (Dr. Lewis, a Dr. Phillips). Sylwn yma, fod y ddwy blaid yn cyd—uno yn y pethau canlyn-