Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidog Dolgellau ddychweliad pob un a ddychwelir i Benarglwyddiaethol ras Duw, yn gweithredu trwy ddylanwad uniongyrchol yr Ysbryd Glân, ac yn ol bwriad ac arfaeth dragwyddol y Jehofa.

Prin y mae yn angenrheidiol dywedyd ei fod yn credu yn gryffod Arfaeth Duw a dylanwad effeithiol yr Ysbryd Glân, yn berffaith gyson â rhyddweithrediad dyn yn ei ddychweliad, ei santeiddiad, a pherffeithiad y gwaith da ar ei gyflwr. Credai Mr. Jones, mewn cysondeb â'i olygiadau ar byngciau eraill, Fod dyn mewn sefyllfa o brawf yn ngwyneb moddion gras, yn y fuchedd hon; a bod ganddo allu naturiol, fel creadur rhesymol a rhydd, i gydymffurfio âg ewyllys ei Greawdwr; ac nad oes dim yn ei rwystro i wneyd hyny ond ei anallu moesol, sef ei gariad cryf at yr hyn sydd ddrwg, a'i clyniaeth. trwyadl at yr hyn sydd dda; ac felly, bod colledigaeth pob dyn a gollir yn hollol o hono ei hunan, tra y mae cadwedigaeth y rhai a gedwir yn unig o Dduw.

Daliai ef yr athrawiaeth o Barhad y saint yn ffafr Duw, ac mewn santeiddrwydd, ac y dygir pob gwir gredadyn yn ddiogel i'r nef, yn y pen draw; a gwelai yn eglur, Fod cyfiawnder a gras yn cydymddisgleirio yn iachawdwriaeth pechaduriaid, o'r Alpha i'r Omega. Nid rhyw opiniynau oedd y pethau a nodwyd ynddo ef, ond yr oedd ei olygiadau ar byngciau crefydd yn anwylach ganddo na'i fywyd, a glynai wrthynt trwy bobpeth yn ddiwyro, ac yn hollol benderfynol.

Am y pyngeiau o Natur eglwys, a dysgyblaeth Tŷ Dduw, Annibynwr o'r Annibynwyr oedd ein brawd ymadawedig; ond coleddai ei olygiadau neillduol ei hun mewn cariad brawdol at enwadau eraill, ac ewyllys da cyffredinol i bawb a wahaniaethent oddiwrtho. Anfynych y cyfarfyddid a dyn mor rydd a diragfarn ag ef; ac ar yr un pryd nid oedd dim a barai iddo roddi i fyny yr un iot o'r hyn a gredai fel gwirionedd datguddiedig. Yr oedd yn dawel, yn fwyn, a didwrf iawn; ond er hyny, yr oedd mor ddiysgog a brenhinbren y goedwig. Credai fod plant bychain yn gyffredinol yn addas ddeiliaid Bedydd, ac mai trwy daenelliad y mae yr ordinhad hono i