igaeth, a pharhad mewn gras. Mynai wybod beth a olyga ysgrifenwyr o wahanol farnau wrth y termau uchod, a'u cyffelyb. Profai bobpeth, a daliai yr hyn a gydwybodol farnai yn dda. Chwiliai mor fanwl Beth sydd wirionedd, fel na ddiangai unrhyw beth, pa mor fychan bynag y byddai, heb ei sylw a'i ystyriaeth. Yr oedd fel dyn yn pwyso aur, o ran manylrwydd. Adwaenai gychwynfeydd camgymeriadau. Dilynasai hwynt i'w ffynhonau, o ba rai y tarddent allan. Ni foddlonid ef fod unrhyw beth yn wirionedd, heb iddo yn gyntaf ei olrain i'w darddle yn yr ysgrythyrau, ac i'r gwirionedd tragwyddol ac anfeidrol sydd yn y Duwdod. Nid yn ei bregethau a'i gyflawniadau cyhoeddus yr ymddangosai y manylrwydd hwn egluraf, ond yn ei ysgrifeniadau, ac yn arbenigol yn ei ymresymiadau â'i gyfeillion ar y ffordd, ar y maes, ac ar yr aelwyd. "Ac am ben hyn oll, gwisgai gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Cydoddefai a'r gwan ei feddwl; dysgai yr anwybodus yn amyneddus; ymresymai tra y parhai gobaith am wneyd lleshad trwy hyny; gobeithiau y goreu am bawb; cydnabyddai ei ffaeledigrwydd ei hun; a hawl eraill i farnu drostynt eu hunain fel yntau; ac ni arferai lymder at neb o'i wrthwynebwyr, tra y cadwent yn weddol ar lwybr gweddeidd-dra, ac hyd nes y byddai eu haerllugrwydd a'u hynfydrwydd wedi myned tros ben terfynau pob goddefgarwch dynol. Er hyn oll, pan fyddai angenrheidrwydd yn galw, medrai ergydio i bwrpas, a dywedyd pethau a deimlid i'r byw am amser maith.
Yr anhawsder penaf i ddarlunio Mr. Jones fel Duwinydd, yw ei gyflawnder a'i berffeithrwydd. Yr oedd yn hynod o ddigoll ryw fodd. Fel dyn perffaith, heb un linell ddiffygiol yn ei wynebpryd, nac aelod llesg a nychlyd yn ei gyfansoddiad, felly, yntau, yr oedd yn gymesurol, yn llawn, a chryf, yn mhob rhan o'i Dduwinyddiaeth: y pethau a berthynent i Dduw a'i lywodraeth, ei arfaeth a'i ras, a'i holl waith yn iachawdwriaeth dynion; yn nghyd â sylfaen dyledswydd dyn, ei waith yn ei holl gysylltiadau, a'i gyfrifoldeb am dano yn y diwedd.