dramgwyddo wrtho, oddieithr fod yn eu plith rywun caled iawn.
Ar ol i ni gael ychydig seibiant, ein gorchwyl nesaf fydd mynegu ein hadgofion am Mr. Jones
YN CADW CYFEILLACHAU EGLWYSIG, AC YN TRIN DYSGYBLAETH.
Dichon fod ambell un yn tra rhagori mewn doniau a phoblogrwydd fel pregethwr, ac etto ddim yn nodedig yn y rhan hon o'i swydd. Tybir fod dau gymhwysder neillduol yn anghenrheidiol i'w chyflawni, sef doethineb a phwyll. Ni wyddom am neb rhagorach yn hyn na Mr. Jones. Heb daflu un anfri yn y mesur lleiaf ar neb o weision Crist adnabyddus i ni, mae yn eithaf gwir nad oedd ond ychydig o honynt i'w cystadlu ag ef yn y gorchwyl hwn.
Ei ddull yn gyffredin wrth gadw cyfeillachau eglwysig fyddai cyfeirio at rai o'r frawdoliaeth wrth eu henwau am fynegiad o'r hyn oedd ar eu meddwl. Os dygwyddai i rywun fynegu ei amheuon am ei gyflwr, efe a'i holai yn arafaidd a chyda manylwch am yr achosion o hyny, a gwasgai ato yn drwm ac yn garedig, am effeithiau ei amheuon arno ei hun. "I b'le, Dafydd bach, y mae dy amheuon a'th ddigalondid yn dy yru di? Wyt ti yn meddwl eu bod yn dy wasgu yn fwy difrifol at yr Arglwydd mewn gweddi? Neu ynte, dy adael di y maent yn yr un man? Beth a feddyli di am hyny?" Yna cyn troi oddiwrtho at rywun arall, cynghorai ef gyda'r serchawgrwydd a'r difrifoldeb mwyaf. Dygwyddai weithiau i rywun ofyn am esponiad ar ran o'r Ysgrythyr. "Beth sydd yn ymddangos yn ddyrus i ti, Sion, yn yr adnod yna ?" Wedi i John roddi atebiad iddo, "Wel," ebe fe, "feallai y cei di esponiad gan rai o'r cyfeillion yma. Morris Dafydd, beth yw dy farn di arni?" Dywedai Meurig Ebrill ei olygiadau dan gau ei lygaid, fel y byddai yr arferiad yn Nolgellau y pryd hwnw gan amryw o'r brodyr, yn ol esampl ein hen gyfaill Thomas Davies, coffa da am dano. "Evan James, dywed dithau dy feddwl ar hyn." Dywedai y brawd hwnw ei syniad yn lled frysiog, a chyda gradd o wreiddioldeb. Elid heibio i eraill hefyd yr un modd; ac yna wedi iddynt gael cyfleusdra i fynegu eu