Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig o'r neilldu i Garn Dochan y mae Rhaiadr Mwy, yn rhuo yn ddiseibiant, ac yn seinio ei udgorn rhybuddiol yn uwch nag arferol o flaen gwlawogydd. Mae yr ardal yn dryfrith o'r ffynnonau oerion goreu sydd yn y byd, ac yn cael ei dosranu gan rifedi mawr o aberoedd iachus, a ymdreiglant o'r bryniau a'r mynyddoedd, i'r Lliw. Tra y mae y fangre y saif y Deildrefi arno yn dir diwylliedig a chynyrchiol, mae y lleoedd sydd yn uwch i fyny yn y cwm, yn aros etto fel cynt, yn eu gwylltedd naturiol; a digon tebyg mai felly y parhant, yn drigfanau rhedyn, brwyn, a grugoedd, perthi a byrlwyni, ceryg a charneddau, yn yr oesoedd dyfodol; ac na ellir gwneyd o honynt ond porfaoedd i ychain a defaid, a noddfeydd i'r ychydig o greaduriaid gwylltion a berthynant i'r fath anialdiroedd. Dyna arddull y ewm y ganwyd ac y magwyd gwrthddrych y cofiant hwn ynddo. Dyna y golygfeydd y syllai efe arnynt, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan yn dechreu codi allan, gyda ei dad, i'r mynydd-dir i edrych a fyddai y gwartheg yn eu rhifedi, a'r defaid yn cadw yn eu manau priodol.

Yr oedd tad a mam Cadwaladr Jones yn byw yn y Deildref Uchaf er cyn ei enedigaeth ef, ac yno y treuliasant weddill eu hoes faith, a thawel. Pobl wledig a dirodres oeddynt, ac yn byw yn gyfiawn yn eu cysylltiad â'r byd hwn. Talent yn fanwl i bawb yr eiddo. Gwnaent gymwynas i gymmydog wrth angen. Buont fyw yn gariadus yn mhlith eu hardalwyr, ac ni chlywid gair isel ac anmharchus am danynt. gan neb. Yr oedd John Cadwaladr dipyn yn wyllt o ran ei dymher naturiol, a thaflai profedigaeth ddisymwth ef oddiar ei echel, am ychydig o funudau; ond ni ddaliai ddigofaint, a byddai yr helynt drosodd gyda iddi ddechreu bron. Yr oedd Dorothy Cadwaladr, o'r ochr arall, yn araf a phwyllog, ac yn wastadol yn llywodraethu ei thymherau a'i nwydau, i berffeithrwydd. Yr oedd pwyll ac amynedd yn ei holl symudiadau, ei geiriau a'i gweithredoedd. Rhagorai ar y rhan fwyaf o'i chymmydogion mewn synwyr cyffredin cryf, a byddai ei sylwadau ar wahanol bethau yn hynod o finiog