iaeth yn hyn. Eisteddai Athraw mwyn yn y gadair yn nghongl yr aelwyd, a'i lygaid yn llawn sirioldeb. "Wel, frodyr," ebe fe, "beth sy' genych ar eich meddwl erbyn hyn?" Ar ol ychydig ddystawrwydd, dywedai un o honynt yn fwynaidd, "Yr oeddwn i yn meddwl eich bod yn ormod o Armin heddyw, Cadwaladr Jones." "Felly yn wir, Huw bach. Beth oedd yn peri i ti feddwl hyny?" "Yr oeddwn inau yn meddwl yr un fath a Huw, a dweyd y gwir." "Aros di, Tomos, gad di chwareu tegi Huw ddweyd ei feddwl." "Wel, dyna p'am yr oeddwn iyn tybied felly, am eich bod yn dal cymaint ar 'allu dyn;' ni chlywais i neb erioed yn pwyso cymaint ar allu dyn nag oeddych chwi heddyw." "Ni chlywais inau ddim ychwaith o ran hyny," ebe un arall. "Felly yn wir," ebe'r Athraw, dan wenu arnynt. "Eisteddwch i lawr i gyd fel y caffom ymgomio tipyn ar y pwngc, a pheidiwch a siarad ar draws eich gilydd, ond llefared pob un yn ei dro." "Ië, ïe," ebe Meurig Ebrill. "Wel, tyr'd Huw, dywed dy feddwl y'mhellach." "Does geni fawr i'w ddweyd ar y mater; ond yr oeddwn i yn meddwl fod yr ysgrythyr yn dweyd gryn lawer am anallu dyn." "Purion, da iawn. A oes genyt ti ryw adnodau neillduol ar hyn, Huw?" "Oes, ryw ychydig." "Digon hawdd cael pymtheg o ran hyny," ebe rhywun prysur ei ateb. "Aros di, Sion, mae Huw heb orphen etto, chwareu teg iddo. Yr adnod, Huw." "Dyma hi—"Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall ychwaith.' Dyma un etto,—Ni ddichon neb ddyfod ataf fi oddieithr i'r Tad yr hwn am hanfonodd ei dynu ef."" "Da iawn; efallai fod gan rai o honoch ychwaneg o adnodau ar hyn?" "Mae llawer i'w cael, o ran hyny," ebe rhywun; "ond cefais fy moddloni yn fawr, Mr. Jones, yn eich esboniad ar natur yr anallu yma, sef mai anallu moesol ydyw, ac nid anallu naturiol. Os wyf yn cofio yn iawn, dywedasoch mai gelyniaeth calon dyn fel pechadur at Dduw yw ei anallu i garu Duw, ac nad yw hyny yn esgusodi dyn am ei fai, ond yn ei hollol gondemnio ef." "Ie, dyna fo, Davies, dyna fo."
"Efallai fod rhai o honoch yn cofio beth a ddywedwyd am yr