eithriadau. Mae yn bosibl i gynnadledd neu gymanfa, dan gynhyrfiad ar y pryd, neu dan ddylanwad dau neu dri o weinidogion blaenllaw a phoblogaidd, basio penderfyniad y buasai yn dda gan naw o bob deg o'r rhai oedd yn bresenol, yn eu horiau mwyaf pwyllog ac ystyriol, pe na buasai erioed wedi pasio; a gall golygydd sydd yn hollol y tuallan i'r dylanwadau hyny, wrth eistedd yn bwyllog wrth ei fwrdd, farnu y byddai yn llawer gwell peidio ei gyhoeddi. Ond pwy a faidd gymeryd y cyfrifoldeb o dynu gwg ac anfoddlonrwydd cynifer o ddynion dylanwadol, y rhai os na wneir yn ol eu gair hwy, a fygythient dynu eu nawdd oddiwrth y cyhoeddiad, a chychwyn un arall dan olygiaeth un o honynt eu hunain. Bu yr Hen Olygydd yn y brofedigaeth yna lawer gwaith. Nis gwyddom pa sawl gwaith y cyhoeddodd benderfyniadau am eu bod yn dyfod oddiwrth gynnadleddau o weinidogion, y rhai, yn ol ei farn bwyllog ef ei hun, y buasai yn well peidio eu cyhoeddi; ond gwyddom iddo mewn dwy engrhaifft yn neillduol ddangos digon o wroldeb ac annibyniaeth, i adael allan benderfyniadau yr oedd siroedd cyfain yn eu cynnadleddau wedi cytuno arnynt. Ac nid siroedd bychain a chyffredin oeddynt ychwaith, ond siroedd lle yr oedd rhai o weinidogion mwyaf poblogaidd yr enwad ar y pryd yn gweinidogaethu, ac yn cymeryd rhan yn y penderfyniadau. Mae yn gadael y cyntaf o'r neilldu yn bur esmwyth, gydag olnodiad-"Digon tebyg y beuir ni am adael allan y pumed penderfyniad, gan y rhai a gydunent ynddo; ond hyderwn yr ymdawelant hyd nes y caffom hysbysu iddynt yn gyfrinachol ein rheswm dros hyny." Yn yr amgylchiad arall, torodd y cwbl yn bur swta gyda sylw bỳr ar y clawr; a phan yr ysgrifenwyd yn bersonol ato am eglurhad, ei ateb oedd "Mai dau frawd pur uchelfrydig o'r dechreuad, oedd y rhai yr oedd y sir yn ymranu rhyngddynt; ac nad oedd o werth i frodyr heddychol a ffyddlon fyned yn blaid i foddio balchder y naill na'r llall." Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn, nid i roddi ein barn a'r hyn o bryd, pa un a wnaeth Mr. Jones yn iawn ai peidio yn yr amgylchiadau yna; ond, pa un bynag, yr ydym yn edmygu y gwroldeb a'r annibyniaeth a
Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/153
Gwedd