parch i ddiaconiaid. Yr ydym yn pleidio yr egwyddorion hyn er's tua haner canrif, a gallwn dystio yn awr ar fin y bedd ein bod yn eu gwerthfawrogi fwy fwy beunydd—'Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi; na thored eu holew penaf hwynt fy mhen; canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt." Yn wir y mae yn rhy ddrwg fod hen wyliedydd ffyddlon yn gorfod ysgrifenu fel yna, am ddim ond gollwng ysgrif alluog i'r Dysgedydd nad oedd neb yn gyfrifol am ei syniadau ond yr awdwr ei hun. Daeth amryw i'r maes i wrthwynebu Scorpion; ac yn rhifyn Mawrth y mae ysgrif ddoniol a thalentog, ond pur ysgythrog, gan Ieuan Gwynedd yn amddiffyn Scorpion a'r Golygydd; ac yn rhifyn Mehefin y mae y Golygydd ei hun yn symio y cwbl i fyny, ac yn cloi y ddadl. Yn ei adolygiad y mae yr Hen Olygydd wedi adfeddianu ei bwyll a'i hunanfeddiant arferol, ac yn terfynu y cwbl gyd a'r eglurdeb a'r anmhleidgarwch hwnw oedd mor briodol iddo. Dichon y tybia rhai na ddylesid cyfeirio at bethau fel hyn; nid oes achos i ni ddyweyd ein bod yn barnu yn wahanol, oblegid y mae y ffaith ein bod yn cyfeirio atynt yn profi hyny. Pethau cyhoeddus ydynt, a byddant yn amlwg yn y Dysgedydd i'r oesau a ddel. Maent yn mysg prif ddigwyddiadau bywyd golygyddol ein gwrthddrych; ac y mae y dull yr â dynion drwy amgylchiadau mwyaf tymhestlog eu hoes, yr eglurhad goreu ar deithi meddyliol a moesol eu natur. Ysgydwodd yr amgylchiadau yna gryn lawer ar yr Hen Olygydd, ac addfedodd ef i ymddeol o gyfrifoldeb y swydd. Yr oedd yr argraff ar ei feddwl ef nad ymddygwyd yn gwbl foneddigaidd ac anrhydeddus gan bawb tuag ato—fod cefnogaeth rhai o'n llenorion galluocaf wedi ei atal oddiwrth y Dysgedydd yn mlynyddoedd olaf ei olygiaeth ef er mwyn prysuro ei gael o'i law, ac na chafodd y gyfran oedd yn ddyledus iddo am ei lafur y blynyddoedd diweddaf, na chyfrif o'r ol—ddyledion a ddaethant i law. Cyhoeddodd ef ei adroddiad ei hun o'r amgylchiadau yn yr Herald Cymraeg am Mehefin 22, 1861. Ni byddai ond ofer i ni drosglwyddo yr ysgrif hono yn llawn yma. Yr unig beth yr ymddangosai
Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/157
Gwedd