mydogaeth, megys, ymaflyd codymau, ymryson rhedeg, taflu maen a throsol, a'r cyffelyb. Clywsom lawer gwaith yn yr ardal hono, fod Cadwaladr Jones, o'r Deildref, pan oedd yn laslangc, yn fuan fel hydd ar ei droed, ac nad oedd neb yn y wlad a'i curai mewn gyrfa. Yr oedd yn gryf, yn ysgafn, yn chwimwth, yn ystwyth fel yr helygen, a'i anadl yn hir ac yn gref. Er. hyn oll, nid yn hir y bu ef heb gael ei ennill trwy yr efengyl i ymhyfrydu mewn pethau mwy pwysig na'r pethau a nodwyd, ac yn fuan tröes ei gefn arnynt oll.
Pan oedd gwrthddrych ein cofiant yn unarddeg oed, ymadawodd y diweddar Barchedig George Lewis, D.D., a Chaernarfon, ac ymsefydlodd yn weinidog yn Llanuwchllyn; a bu yn llafurio yn ddyfal yn yr ardal hono am dros ddwy flynedd ar bymtheg. I wrandaw arno ef y byddai pobl Pennantlliw, agos oll, yn myned y pryd hwnw; ac yn eu plith yr oedd Cadwaladr Jones yn wrandawwr cyson arno, ac yn mawr hoffi ei weinidogaeth. Y mae amrywiaeth barn yn mysg dynion deallus a chrefyddol am rai pyngciau yn nuwinyddiaeth y Doctor Lewis; ond nid oes dim ond un farn yn mysg y rhai a'i hadwaenent ef oreu, yn ei gylch ef ei hunan, am dano fel dysgawdwr crefydd i'w gynnulleidfa. Yr oedd yn fanwl, yn rymus, ac yn ysgrythyrol, a bu yn dra llwyddianus yn Llanuwchllyn. Ni feddyliodd y Dr. Lewis erioed am ddwyn dynion i gysylltiad ag eglwys Dduw trwy rinwedd "sebon meddal" a gweniaith, ond trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân; ac am hyny yr oedd yn yr eglwys oedd dan ei ofal, ddynion. yn meddu dirnadaeth ysbrydol, yn saint wedi eu cymhwyso i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Yr oedd yno lawer o'r cyfryw bobl. Dyna y bobl a fyddent yn cydfyned i'r capel, ac yn cyd-ddychwelyd o hono, gyda Chadwaladr Jones; gwyddys fod eu hymddiddanion a'u hymddygiadau wedi bod iddo ef, ac i eraill hefyd, o ddirfawr les. Ni wyddom pa fodd yr ennillwyd ef i roddi ei hunan yn gwbl i Iesu Grist, ac i'w bobl, yn ol ei ewyllys ef; hyny yw, ni wyddom pa