Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neb arall yn eu golygiadau neillduol, mwy nag yntau; etto, bu pregethau a llyfrau ei weinidog llafurus yn foddion effeithiol i sefydlu ei olygiadau ar y rhan fwyaf o byngciau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Bu gweinidogaeth a chyfeillach Mr. Pugh, o'r Brithdir; Mr. Williams, wedi hyny o'r Wern; Mr. Jones, o Drawsfynydd; a'r Hybarch Robert Roberts, Tyddynyfelin; ac Ellis Thomas, Tymawr, un o'i gymmydogion agosaf, o gryn adeiladaeth iddo yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd crefyddol. Ond ei weinidog ei hun oedd ei brif hyfforddwr ef, a gair Duw, at yr hwn y cyfeiriai gweinidogaeth sefydlog "yr Hen Gapel" ef bob amser. Wedi i Mr. Jones fod am dair blynedd yn aelod dichlynaidd, diwyd, a defnyddiol yn yr eglwys y perthynai iddi, ac i'w gydaelodau gael prawf o hono, a boddlonrwydd ynddo, fel gwr ieuange sobr a chrefyddol, deallgar a gwybodus, ac awyddus am gael ei gyd-bechaduriaid at yr Arglwydd Iesu, ac i fwynhad o'r un grefydd ag a roddasai dawelwch i'w gydwybod euog ef ei hun, anogwyd ef i ymarfer y ddawn a roddasai yr Arglwydd iddo i bregethu yr efengyl, yn ol fel y byddai amser a chyfleusdra yn caniatau iddo wneuthur. Mewn ufudd-dod i'r anogaeth hono, dechreuodd draethu ychydig o'i syniadau ar ranau o'r ysgrythyrau, megys ar brawf yn y cyfeillachau neillduol. Yn mis Gorphenaf, 1806, y dechreuodd efe arfer ei dalent yn y ffordd hono yn yr eglwys. Y canlyniad o'r prawf hwn o hono ydoedd, pasio penderfyniad unfrydol gan yr holl frodyr a'r chwiorydd: "Fod rhyddid i Cadwaladr Jones i lefaru yn gyhoeddus, pa le bynag a pha bryd bynag y gelwid arno i wneuthur hyny." Dyna ef wedi ei osod yn rheolaidd yn ei swydd fel pregethwr trwy unol lais y gynnulleidfa. Yr oedd hyny, yn ddiau, yn galondid mawr iddo i ymaflyd yn y gwaith pwysig a gymerasai i'w gyflawni. Ni ddylai dyn dan amgylchiadau cyffredin ruthro i bregethu yr efengyl yn ol ei fympwy ei hun, ac heb ei alw yn rheolaidd at y gwaith gan eglwys Dduw. Gwaith yr eglwys, dan arweiniad ei blaenoriaid ac yn ofn yr Arglwydd, yw cyfodi pregethwyr. Nis gellir llai na chymer-