syniadau Dr. Williams, o Rotherham, a Fuller, ac eraill, collfernid hwy fel "Haner Morganiaid." Haerid nad oedd eu hathrawiaeth yn iach, a'u bod yn gosod eneidiau y bobl mewn perygl. Yr oeddynt hefyd yn cael eu cyhuddo o goleddu syniadau gwleidiadol peryglus. Condemnid hwy gan Seren Gomer, am eu golygiadau ar ryddfreiniad y Pabyddion. Prin y mae y darllenydd yn barod i gredu fod yr enwog Joseph Harries, yn wrthwynebydd egniol i'r mesur hwnw. Yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd yn gogwyddo at yr ochr geidwadol yn eu proffes wledychol, gyda'r un eithriad o ryddhad y caethion, ac ymddengys nad oeddynt yn barod i symud fel plaid yn y cyfeiriad hwnw, fel y dengys un o gofnodion y gymdeithasfa a gynaliwyd yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1824.
"Soniwyd am achos y caethion yn yr India Orllewinol, ac ymofynwyd a oedd angenrheidrwydd i ni fel corff gymeryd sylw ar yr achos, yn mhellach na chydweithredu a'n cydwladwyr yn yr amryw drefydd a siroedd? Barnwyd nad oedd."
Yr oedd trefn yr Annibynwyr o roddi addysg athrofaol i wyr ieuaingc yn wynebu ar y weinidogaeth yn cael ei warthruddo yn ddiarbed. Yr oedd eu gweinidogaeth sefydlog yn nod i sylwadau anngharedig, a dyweyd y lleiaf am danynt. Pa ryfedd gan hyny fod ein tadau wedi ymroddi i sefydlu cyhoeddiad i egluro, ac amddiffyn eu golygiadau?
Anrhydedd nid bychan i Mr. Jones, oedd ei ddewisiad yn Olygydd i'r cyhoeddiad newydd. Yr oedd gan ei frodyr ymddiried calonog yn ei ben a'i galon, wrth ei ethol i'w swydd bwysig. Parhaodd yn y gadair lywyddol am lawer o flynyddau. Gwelodd ambell dymestl yn cyfodi, i roddi prawf ar ei ddoethineb a'i gydwybod, ond safodd fel llywydd gwrol wrth y llyw, yn nghanol creigiau bygythiol, a thraethellau enbyd. Ni welwyd "Ysbryd nerth, a chariad, a phwyll” yn cael eu corffoli yn well mewn dyn erioed.
Wedi llenwi y swydd o Olygydd yn anrhydeddus am lawer o flynyddau, gwelodd fod cylchdaeniad y Dysgedydd yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, ac nad oedd gobaith ei ddal i fyny