Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd dechreuydd yr achos yn Mon, mewn undeb a'r Hybarch William Prichard. Bu mewn enbydrwydd am ei cinioes yn fynych; erlidiwyd ef yn dost; ond amddiffynodd yr Arglwydd ef. Ni lwfrhaodd; a gwenodd y nefoedd ar ei lafur yn mhob man. Mr. Rees a anogodd yr enwog Howell Harries i ymweled a'r Bala am y tro cyntaf; a llawenychai yn llwyddiant pawb a geisient droi eneidiau at Iesu Grist. Ymadawodd a Llanbrynmair yn y flwyddyn 1759, ac ymsefydlodd yn y Mynyddbach, er mawr golled i ogledd Cymru.

Tua diwedd y ganrif o flaen hon, neu yn hytrach, yn y rhan ddiweddaf o honi, cyfododd yr Arglwydd lawer o ddynion a ymdrechent i eangu terfynau achos crefydd yn mysg yr Annibynwyr yn y gogledd; megys, R. Tibbot, Llanbrynmair; A. Tibbot, Llanuwchllyn; B. Evans, Llanuwchllyn; G. Lewis, Caernarfon; J. Griffiths, o'r un lle; William Hughes, Bangor; J. Evans, Amlwch; Jenkyn Lewis, Gwrexham; Dr. Williams, Croesoswallt; J. Roberts, Llanbrynmair, ac amryw eraill. Gallesid meddwl fod gan weinidogion yr Annibynwyr y pryd hwnw, fwy o fanteision dysgeidiaeth na'u brodyr o enwadau eraill. Yr oeddynt hefyd yn ddynion deallus a galluog yn lled gyffredinol. Heblaw hyny, yr oeddynt yn derbyn cryn gydymdeimlad a chynnorthwy oddiwrth eu brodyr yn Lloegr. Er y pethau yna oll, golwg go wan ac eiddil oedd ar yr enwad yn y tymhor y cyfeirir ato yma, os cymerir ei sefyllfa yn y gogledd yn gyffredinol dan ystyriaeth. Bychain a phell oddiwrth eu gilydd oedd y cynnulleidfaoedd, yn y rhan amlaf o'r siroedd. I roddi cyfrif am hyny cynygir y sylwadau canlynol yn wylaidd, i ystyriaeth Annibynwyr y dyddiau presenol.

1. Yr oedd gormod o awydd yn ein hen weinidogion am gael y bobl i gyd i'r un man yn y gwahanol ardaloedd. Pregethent hwy mewn tai ar hyd y cymmydogaethau pellenig, ond ni chodent addoldai ynddynt yn aml, gan ddisgwyl i'r bobl ddyfod i le canolog ar y Sabbothan. Yr oeddynt yn disgwyl gormod. Daeth enwadau eraill i mewn i'w llafur hwynt, a chyfodasant addoldai bychain cyfleus yn y cyfryw fanau, ac ennillasant y tir oddiar amryw o gynnulleidfaoedd