Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Bu yr eglwysi yn y Brithdir, a Rhydymain, a'r cymydog- aethau o amgylch Dolgellau, mewn cryn bryder yn nghylch dewis olynydd i'w diweddar fugail Mr. Pugh. Yr oedd y diweddar Barch. D. Morgan, Llanfyllin, y pryd hwnw, yn ddyn ieuangc a'i gymwysderau gweinidogaethol yn prysur ymagor, yn mhlith yr enwad y bu ynddo, wedi hyny yn gymaint o addurn. Yr oedd Mr. Morgan, a Mr. J., wedi bod ar brawf yn mhlith y frawdoliaeth yn nghylch gweinidogaeth y diweddar Mr. Pugh, ac fel y mae bron yn ddieithriad yn dygwydd, yr oedd rhai yn lled dyn dros Mr. Morgan, ac eraill yn ffafrio Mr. J., rhai yn canfod rhagoriaeth y naill yn y pulpud a'r llall yn y Society, un yn melusder swynol ei ddawn, a'r llall yn ei sêl danllyd. Ac wedi i'r peth ddyfod. i ddigon o addfedrwydd, penderfynwyd yr ymdrechfa trwy bleidlais reolaidd y frawdoliaeth, a chafwyd y fantol yn ffafr Mr. J. Derbyniodd alwad unfrydol a chalonog oddiwrth yr eglwysi o Rydymain a'r Brithdir, a'r Cutiau gerllaw yr Abermaw, yn cynnwys dros bedair milldir ar ddeg o'r naill le i'r llall, heblaw y canghenau o amgylch Dolgellau. Cydsyniodd a'u cais, ac ordeiniwyd ef yn Nolgellau, yn 1811.

"Wedi i Mr. Williams, Castellnewydd, bregethu ar natur eglwys y Testament Newydd, ac i'r urddedig ateb y gofyniadau arferol, a ofynid gan Mr. Griffiths, Caergybi, yr oedd Mr. J. i weddio yr urdd weddi. Dacw fe, yn ymwasgu gan bwyll, drwy ei frodyr, ac yn araf esgyn grisiau yr areithle; safai unwaith etto yn ei hen bulpud y bu lawer canwaith, yn pregethu geiriau y bywyd o hono, ac nad oes ond dydd y cyfrif yn unig a ddengys yr effeithiau, ger gwydd cymanfa fawr yr holl ddaear. Yr oedd yr olwg batriarchaidd ar yr 'hen Olygydd' a'i wallt arianaidd yn disgyn yn esmwyth dros ei arleisiau, dan amgylchiadau cyffröus y cyfarfod, yn sefyll fel am y tro diweddaf, yn ei hen bulpud, ger bron ei hen gynnulleidfa, yn cymeryd ffarwel' a'i hen eglwys, dros yr hon y gwyliasai gyda thynerwch a gofal tad dros gynifer o flynyddau, gan adrodd ei brofiad, a gweddïo am lwyddiant ei olynydd yn hen faes ei lafur, yn effeithio yn ddwys ar deimladau y