CLADDEDIGAETH Y PARCH. CADWALADR JONES, DOLGELLAU.
"At y sylw yn ein rhifyn diweddaf ar fywyd a marwolaeth yr hybarch dad o Ddolgellau, y mae genym heddywi ychwanegu ychydig o hanes yr oruchwyliaeth derfynol yn ei yrfa faith ar y ddaear—ei gladdedigaeth. Cymerodd hyn le dydd Mercher, yr 11eg cyfisol, yn mynwent y Brithdir, lle tua thair milldir o Ddolgellau, a fu am flynyddoedd dan ofal Mr. Jones, yn nghychwyniad ei yrfa weinidogaethol. Gofalodd y nefoedd am roddi i bawb yn yr ardaloedd hyn bob cyfleusdra a chefnogaeth i dalu ein teyrnged olaf o barch tuag at berson ei hen a'i ffyddlon was, trwy roddi diwrnod cymhwys iawn tuag at hyny—un teg, ac etto pruddaidd. Ni fynai y Nefoedd ddangos y sirioldeb oedd 'tu mewn i'r llen' ar ddyfodiad yr hen gadfridog adref; ac ni fynai wylo chwaith—gadawodd hyny oll i ni.
"Cychwynwyd o Gefamaelan tuag 11eg o'r gloch. Gweinyddwyd y gwasanaeth cychwynol arferol wrth y tŷ gan y Parch. E. Williams, Dinas; a J. Jones, Abermaw. Wedi dyfod i'r ffordd, ymunodd y dorf yn orymdaith drefnus, yn cael ei blaenori gan y Parchn. R. Thomas, Bangor; W. Ambrose, Portmadoc; H. Morgan, Samah; J. Jones, Abermaw; E. Evans, Llangollen; J. Jones, Machynlleth; O. Evans, Llanbrynmair; H. Ellis, Llandrillo, yn nghyda gweinidogion a phregethwyr eraill, rhy luosog i'w henwi, o bell ac agos, oll tua 30 o rifedi. Yn dilyn y rhai hyn yr oedd un o'r golygfeydd mwyaf teilwng a phrydferth o'r cwbl—23 o efrydwyr Athrofa y Bala, yn cael eu blaenori gan eu dau athraw, y Parchn. M. D. Jones, a J. Peters. Yn mysg eu brodyr Annibynol yn y rhan flaenaf o'r orymdaith gwelid gweinidogion, pregethwyr, a diaconiaid gwahanol enwadau eraill Dolgellau a'r amgylchoedd. Dilynid y rhai hyn oll gan ganoedd o aelodau eglwysig o bob enwad, ac o drigolion parchusaf y dref a'r wlad o bob gradd, yn wyr a gwragedd hefyd. Yr oedd gweinidogion Annibynol y sir yno oll ond tri. Lluddiwyd hen gyfaill a chydlafurwr henaf Mr. Jones yn y sir, y Parch. E.