Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond Mr. John Jones, yr hynaf—gwraig syml, garedig, barchus, anwyl nodedig gan bawb a'i hadwaenai. Yr hyn a wnai ei symudiad yn angenrheidiol oedd, y bydd yr Hen Gapel yn fuan yn cael ei roddi i fyny, a'r gynnulleidfa yn symud i'r Capel Newydd eang a hardd oedd bron a'i orphen.

"Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Evans, M.A., (T.C.); yna anerchwyd y dorf gyda theimlad a phriodoldeb nodedig gan y Parchn. E. Evans, Llangollen, ('mab yn y ffydd' i'r hen weinidog); W. Ambrose, Portmadoc; J. Jones, Machynlleth; R. Thomas, Bangor (brodor, fel yntau o Lanuwchllyn), ac H. Morgan, Samah, yr hynaf o'i gydweinidogion oedd yn bresenol. Cyfeiriodd pob un yn fyr at brif nodweddau cymmeriad yr hen dad trancedig fel Dyn, fel Cristion, ac fel Gweinidog i Grist. Yr oedd yn eglur oddiwrth eu hanerchiadau byrion, ond teimladwy, y teimlent fod hyawdledd di—eiriau, ond clir, uchel, difrifol, y ffaith, yr amgylchiadau, yr olygfa yn y bedd, ac o'i amgylch, yn siarad digon—yn siarad yn gliriach, yn uwch, yn fwy effeithiol, nag oedd yn bosibl i unrhyw dafod dynol. Terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi gan y Parch. E. Morgan, (W.), a chanu mawl. Gallwn gyfeirio at rai o'r tystiolaethau eglur a ddygai yr olygfa yn mynwent y Brithdir y diwrnod hwnw, am yr hen weinidog ymadawedig. Creadigaeth deg ei gymmeriad a'i lafur maith a llwyddianus ef ei hun oedd yr olygfa ddyddorol addysgiadol hono oll.

"1. Llwyddiant ei Lafur.—Bu yn pregethu Crist yn Geidwad i'r byd dros 61 mlynedd, ac yn ei wasanaethu fel gweinidog ordeiniedig dros 56 mlynedd. Yr oedd i'r fath lafur yn ngwasanaeth y fath Feistr fyned yn ofer yn anmhosibl. Yr oedd ei eiriau yn ddiarebol o bwyllog, ei gamrau pan y cerddai, a chamrau yr hen gaseg' pan y marchogai yn ddiarebol' o araf. Os digwyddai i rywun ei gyfarfod pan yn marchogaeth, safai yr hen gaseg' yn y fan, fel y gallai Mr. Jones ddilyn ei arferiad gwastadol o ysgwyd llaw, a dweyd rhyw air caredig wrth bawb a gyfarfyddent. Yr oedd gan Mr. Evans, Llangollen, fel 'mab yn y ffydd' iddo, ugeiniau o