Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn dadl. Taera dilynwyr J. Wesley nas gellir dal Etholedigaeth heb ar yr un pryd ddal gwrthodedigaeth; a chan nad oes gwrthodedigaeth, nad oes ychwaith yr un Etholedigaeth o'r fath ag a gredir gan Galfiniaid: ond nid yw y geiriau ethol a gwrthod yn eiriau cyferbyniol, a'r fath gysylltiad rhyngddynt fel nad yw yr un yn bodoli heb y llall. Y gair cyferbyniol i ethol yw gadael, a'r gair cyferbyniol i wrthod yw cynyg. Cyn y gellir gwrthod y mae yn rhaid fod cynyg; ond ni raid fod cynyg lle byddo dewis. Y mae dewisiad yn aml yn cymeryd lle heb un cynygiad, ac o ganlyniad heb un gwrthodiad. Y mae gwrthodiad, gan hyny, yn mhob ystyr y cymerir y gair, yn anfeidrol bell oddiwrth fod yn perthyn i Etholedigaeth rasol Duw. Ond dymunem sylwi yn mhellach,—

1. Fod amryw ymadroddion ysgrythyrol yn cynnwys a darlunio yr Etholedigaeth hon; megys "Ordeinio i fywyd," Act. xiii. 48; "Dewis," Iago ii. 5; "Rhagluniaethu i fabwysiad,', Eph. i. 5; Rhuf. viii. 29; "Arfaeth yn ol Etholedigaeth gras," Rhuf. ix. 11; "Apwyntio," 1 Thes. v. 9; "Bwriadu," Esay xiv. 27; Jer. li. 29, &c. y rhai a'n harweiniant i gredu mai y gangen hono o arfaeth Duw ydyw sydd yn sicrhau iachawdwriaeth tyrfa ddirif o bechaduriaid. Nid oes yr un o'r ymadroddion ysgrythyrol sydd yn ei darlunio yn arwyddo ychydig rifedi mwy na llawer; ond gall yr holl ymadroddion gyfeirio at lawer yn llawn cystal ag ychydig; a cham â golygiadau Calfiniaid ydyw cysylltu â hwynt mai ychydig rifedi yw y rhai a gedwir. Na, na, credwn yn hytrach na bydd Iesu wedi ei gyflawn ddiwallu heb weled y dyrfa fwyaf ar ei ddeheulaw yn y dydd mawr diweddaf,-"O lafur ei enaid y gwel, ac y diwellir," &c.

2. Y mae y geiriau ethol, dewis, &c. yn y cysylltiad hwn, yn benaf, os nad yn unig, yn dal perthynas â phersonau yn hytrach na phethau. Personau a etholwyd, a ddewiswyd, a ragluniwyd, &c.

Gwahaniaetha Etholedigaeth oddiwrth arfaeth, yn gymaint a bod yr olaf yn cynnwys pethau yn gystal a phersonau; ond oll yn bethau ag y mae llaw weithredol gan Dduw ynddynt, ac o ganlyniad yn bethau da, heb ddim drwg ynddynt.