Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI.
PAN FYN Y DAW.

DYWEDIR wrthym i Gluck ysgrifennu rhai o'i brif weithiau ar ganol dôl, gyda phiano yn ei ymyl. Yr oedd Beethoven hefyd yn hoff o help dylanwadau natur, yn neilltuol y dymestl a'r mellt; a phan na chai y rheiny, cerddai drwy'r coedwigoedd a'r meysydd, nes y trwythid ei ysbryd â'u dylanwad. Ar y llaw arall, gallai Mozart ymgomio neu chware biliard ar yr wyneb pan fyddai ei greadigaethau godidocaf yn ymffurfio yn y dwfn. Dywed Wagner wrthym fod ystad o feddwl dangnefeddus a dirwystr yn ffafriol i waith crêol y cerddor, a'i fod yn anghenraid iddo ef ei hun, er y caffai'r anhawster mwyaf i'w sicrhau. Ond cawn ef wedyn, pan yn Marienbad, yn cymryd cwrs o feddyginiaeth, yn methu aros yr awr benodedig yn y dŵr, pan ddoi'r afflatus arall drosto, ac yn codi a gwisgo a rhedeg gartref i ysgrifennu Lohengrin.

Mater ydyw o ddod i'r ymgyfaddasiad iawn â ffynonellau ysbrydoliaeth—o roddi cyfle i ffynhonnau'r dyfnder lifo'n rhydd, drwy symud y rhwystrau amgylchiadol ar yr wyneb. Ymddengys eu bod yn rhedeg mor rhwydd ym Mozart fel nad oedd eisieu symud y pelau biliard pan yn cyfansoddi—dim ond pan yn ysgrifennu. Pryd bynnag y ceir gwaith cerddorol neu arall o werth, boed fawr neu fach, boed bennill neu bryddest, rhangan neu dreithgan, y mae yna berthynas organaidd rhwng ysbryd yr awdur a byd delfrydol gwir. Gall un fod mewn perthynas