daflu i ddigrifwch di-faich yn fwy llwyr. Hogiau felly, heb erioed dyfu allan o'r cyfnod hwnnw, oedd Joseph Parry a Gwilym Gwent. Nid oedd Emlyn a John Thomas a Dd. Jenkins felly'n gyson; ymollyngent i'r berthynas hon â'i gilydd yn rhwydd iawn. Ar un adeg yn ei fywyd (wedi 1880!) ceisiodd yr elfen hon wneuthur lle mwy sicr a chyson iddi ei hun yn ei hanes. Bu Gwalia, Llandrindod, yn "gartref oddicartref" iddo am lawer o flynyddoedd; ac yn ystod y cyfnod y cyfeiriwn ato, bu ef a nifer o gyfeillion eraill Hughie Edwards, Llwydwedd, Lucas Williams, R. S. Hughes a Dd. Jenkins ar brydiau yn cydgyrchu i Landrindod bob blwyddyn pan fyddai'r lloer yn llawn. Mr. Ed. Jenkins (Ap Ceredig) oedd y whipper-in gan amlaf. Gelwid hwy "y fflamawg gad," am eu bod yn cydymdaith, ac yn gwisgo ties flamgoch, mae'n debig.
Wele enghraifft o'r "whips" a yrrid allan:—
"O! mor braf, O! mor braf
Yn yr hwyr yw lloer yr haf:
Anadl hon yw'r awel fwyn
Sydd yn suo yn y llwyn;
Dywed wrthyf, 'Dos ar frys
I Landrindod, hwn yw'r mis;
Yno bydd y fflamawg gad,
Nid gwiw rhoddi un nacâd.
Rhaid cael Emlyn yno'n wir,
Rhaid, os yw yn gyfaill pur,—
Cyfaill pur! pwy fyth a'i gwad ?
Y lloer a'i gŵyr, a'r fflamawg gad!"
Awst 8fed, 1884.