Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi gollais y llwybr, ac ar ol teithio rhyw gymaint daethum yn erbyn rhyw wal uchel yn groes i'r mynydd—ond wedi aros a cheisio guessio ple'r oedd Penmachno, mi lwyddais i gael y llwybr drachefn. Yr oeddwn yn y capel tua haner y cyfarfod cyntaf, wedi cael pob ymgeledd yn y ty Capel. Wel dyna i ti yr helynt—ond yr oedd yn dda i mi nad aethum yno nos Sadwrn, oblegid cor Penmachno gafodd y wobr.

. . . . . . . . . .

Cofion fyrdd,

JOHN.

Gwaith rhwydd fyddai ychwanegu; ond nid ydym am roddi mwy o le i'r agwedd hon yn y Cofiant nag sy'n gymhesur â'r lle oedd iddi ym mywyd gwrthrych y Cofiant. Yn hwnnw yr oedd yn hollol is-wasanaethgar; ond yn y safle honno chwareodd ran dra phwysig yn ei hanes yn ddiau, drwy lacio tipyn ar dyndra gewynau meddyliol a moesol, a chadw peirianwaith y giau rhag treulio allan gan egni'r ysbryd a bres—wyliai yn y corff gwan.