Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymharu amryw ganeuon a ymddangosodd rhyw bymtheg a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Yr oedd ei chwaeth yn rhagorol wrth ddewis geiriau. Yn hyn cafodd lawer o help yn ddiau gan Mynyddog, —awdur geiriau rhai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd. Ychydig o weithiau cyflawn a gyfansoddodd, ond y mae'r ychydig hynny'n llawn swyn a melodedd. Pan yn edrych dros ei waith cyflawn cyntaf—Y Tylwyth Teg—fe'n swynir gan lyfnder y felodi a'i hystwythder canadwy.

Dengys ei hoffter o'r hen alawon, a gwyddai sut i'w defnyddio heb eu camddefnyddio. Mor firain a thlws y tarawiad o Hob y deri dando yn y corawd cyntaf o'r Tylwyth Teg. Dyma law gelfydd mewn gwirionedd, dim ond rhyw awgrym—fel rhyw arlunydd yn gwneuthur i'r edrychydd weld ymhell tuhwnt i'r darlun. Mor llawn o hiwmor ac o'r cellweirus, fel yr arferid y gair yng Nghwmtawe—yw'r unawd i fariton "Brenin y Tylwyth teg wyf fi." Mae'r mydr a'r seiniau yn llawn asbri, a swynir ni gan bertrwydd y brawddegau. Gan fod ei edmygedd o Mendelssohn mor fawr, nid yw'n anodd canfod fod Midsummer Night's Dream yr Iddew cerddgar wedi gwneuthur argraff ddofn arno. Ei weithiau cyflawn eraill ydyw Gweddi'r Cristion a'r Caethgludiad. Yma eto, ni wnaeth yr un ymgais i "synnu'r doethion," nac ychwaith i foddio "duwiau'r galeri," ond ysgrifennai'n goeth, yn ganadwy ac yn effeithiol. Yr oedd ganddo galon ddigon mawr i greu melodi. Ac wedi'r cyfan, onid dyna hanfod gwir gerddoriaeth? Dywedai Schubert un tro: "Rwyf yn credu fod yr engyl yn canu yng ngherddoriaeth Mozart." Paham? Ai am y rhanweithiadaeth celfydd, a'r cyfuniadau