Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffaith ag y gwrandawn ar symphoniau Mozart. Er cymaint yw yn uwch na ni, y mae Mozart yn rhoddi i ni bob amser yr hyn a ofynwn ac a ddeallwn. mae Beethoven yn ein synnu beunydd, ac weithiau yn ein cythryblu; Mozart yn ein diddanu a'n digoni. Nid ydym yn teimlo ychwaith fod Beethoven yn ein hysbrydoli â'r teimlad uchaf oll—crefyddolder. Y mae ei Engedi' yn hyfryd odiaeth, ac yr ydym yn ddiolchgar am y gwaith fel y mae; ond gallasai fod wedi ei gyfansoddi i ddathlu coroniad rhyw ymherawdwr, onibae ein bod yn gwybod ei bod yn amhosibl i Beethoven ysgrifennu unrhyw waith gyda'r cyfryw ddyben. Nid oes y fath tableau ryfeddol o arliwiaeth gerddorol mewn bod, a'i Missa Solennis, ond cyn belled ag y mae a fynno â'r teimlad o ddefosiwn a chrefyddolder, nid yw yno; nid ydym yn syrthio yn addolgar ar ein gliniau fel gyda Mozart, mwy nag yr ydym yn esgyn ar adenydd i fyny i'r nef gyda Handel.

"Y mae ein gorchwyl ar derfynu; nid ein bwriad mewn un modd oedd dihysbyddu ein testun—cymerai gyfrolau i gyflawni hyny—ond yn hytrach ym—gomio â'r darllenydd, heb gadw'n fanwl at unrhyw gynllun neillduol. Y mae cerddoriaeth wedi gwneyd brasgamiadau nodedig y blynyddau diweddaf; pa beth sydd yn weddill sydd gwestiwn nas gall neb ei ateb yn awr. Fel y dywedodd Reichardt, darfu i Haydn adeiladu iddo ei hun dŷ hardd, adeiladodd Mozart balasdy urddasol uwchben iddo, a chododd Beethoven dŵr gorwych uwchlaw hwnnw; ond pwy bynag a anturiai i esgyn yn uwch, diau mai tori ei wddf a wnae. Y mae Weber, Spohr, Mendelssohn, Schubert a Schumann bob un wedi ychwanegu ei