Richard Mills; tra yr oedd Caniadau Seion wedi gwneud eu hymddangosiad yn 1840— yr Atodiad yn canlyn yn 1842. Bellach dechreuwyd cyfnod newydd, ac er nad oedd y Gramadegau a'r Casgliadau hyn mewn un wedd yn berffaith, yr oeddent yn anhraethol uwch na dim a feddem o'r blaen, pwyntient i'r cyfeiriad priodol, a buont yn foddion i roddi ysgogiad na fu ei gyffelyb cyn hynny i gerddoriaeth Gymreig . . . . . .
"Y mae un arall o weithwyr difefl Llanidloes yn hawlio cymeradwyaeth a chrybwylliad, sef Hafrenydd, yr hwn a wnaeth wasanaeth diamheuol drwy gyhoedd' y Salmydd Cenedlaethol (1845) a'r Ceinion (1852), drwy y rhai y dygodd y genedl i ymgydnabyddiaeth â nifer o gorawdau y prif feistri, Handel, Haydn, Mozart, etc.
"Amhosibl cofnodi yn agos yr oll o'r casgliadau o bob math a maint a gyhoeddwyd yn y blynyddau hyn. . . . . Amhosibl hefyd crybwyll enwau chwarter y rhai fuont yn fwy neu lai gweithgar a blaenllaw fel athrawon ar hyd y wlad, ac fel cyfansoddwyr . . . . . .Y mae rhai o'r casgliadau (a gyhoeddwyd wedi 1850) yn perthyn o ran eu cynnwys a'u teilyngdod i'r oes flaenorol, megis Y Blwch Cerddorol (1852). Am gyffelyb reswm gosodir J. D. Jones yn y cyfnod nesaf, er iddo gyhoeddi y Perganiedydd yn 1847; a Gramadeg Alawydd yr hwn a gyhoeddwyd (argraffiad cyntaf) yn 1848.
"Yn yr hanner gyntaf o'r ganrif ymddanghosodd nifer o gasgliadau o'n halawon cenedlaethol, heblaw eiddo Bardd y Brenin, megis Casgliad Russell yn 1808—adargraffiad gan mwyaf o alawon