Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed) Cassell's Popular Educator, yn cynnwys gwersi cyntaf John Curwen yn y Tonic Solffa; ond ymddangosai'r ddwy gyfundrefn mor anghyson iddo ar y pryd nes peri iddo roddi'r astudiaeth i fyny mewn diflastod. Tebig mai'r Solffa a roddodd i fyny, neu ynteu na pharhaodd y "diflast od yn hir, oblegid cawn ef yn mynychu ysgol gân "Hughes Llechryd" pan ar fedr cychwyn i Forgannwg.