Anodd, os nad amhosibl, fyddai rhagori ar "Y Blodeuyn Olaf" ym mhurdeb ei harddull, llyfnder a thlysni ei melodion a'i chynganeddion, a hapusder ei theimlad cerddorol."
Mewn cyfeiriad o'i eiddo at gofgolofn Ambrose Lloyd dywed:—
"Yn ein gwibdaith ar y cyfandir y llynedd (1874) llwyddasom ar ol llawer o drafferth, ac mewn cryn lesgedd, i ddyfod o hyd i gladdfa neilltuol yn Vieana, ac yn y gladdfa honno, o hyd i feddfaen, ar yr hwn yr oedd yr enw Beethoven"; a braidd. na chredwn mai dilyn yr un llwybr—dim mwy na dim llai fyddai fwyaf priodol ynglyn a'r dyn a'r cerddor John Ambrose Lloyd."
Fe sylwa'r darllenydd ar y lle a ddyry i'r "dyn." Wele rai o'i eiriau ar Owain Alaw:—
"O bosibl mai Owain Alaw, yr hwn oedd yn gerddor proffeswrol, oedd y cyntaf i ddanfon i fewn ei gyfansoddiadau i'r cystadleuon eisteddfodol gyda chyfeiliant offerynnol iddynt.
"Torrodd dir newydd, ac unwaith y dengys y blaengloddiwr y llwybr iawn, y mae eraill yn bur sicr o'i ganlyn, fel ag yn yr amgylchiad hwn. I Owain Alaw hefyd y perthyn yr anrhydedd o fod yn awdwr ein Cantawd fydol gyntaf, Tywysog Cymru' os nad yn wir, y Gantawd briodol gyntaf oll, gan y cyfranoga Gweddi Habaccuc' J. A. Lloyd yn fwy o ffurf y Motett, neu yr Anthem eglwysig ddatblygedig. O ran purdeb arddull y mae anthemau eglwysig Owain Alaw ymysg ein goreuon, tra y dengys rhai ohonynt—' Y Ddaeargryn' e.g.—fod yr awdur yn meddu ar wythien ddramayddol o gryn nerth."