marian, yr hwn, er y gallai ysgrifennu erthyglau a beirniadaethau darllenadwy a doniol, oeddynt yn amddifad bron yn hollol o bopeth gwyddorol. Efrydydd diwyd a Beirniadydd manwl a fuasai Ieuan Gwyllt hyd y dydd hwn, pe arbedasid ei fywyd; ond Bardd y gan oedd ac a fuasai Tanymarian, yn byw ym myd darfelydd a chrebwyll, ac yn barod bob amser i ledu ei ddwylaw os y deuai 'deddfau dynol' ar ei ffordd, gan eu chwalu yn ddiseremoni. Efallai y gellir ystyried Ambrose Lloyd fel cyfuniad o'r ddau, y gwyddorydd a'r celfyddwr, ond pa un ai drwy natur neu astudiaeth nis gwyddom, ac nid oes gennym unrhyw ysgrifeniadau o'i eiddo ar gael i'n cyfarwyddo ar y cwestiwn. Ond diameu mai y cyfuniad hapus hwnnw yw y goreu a'r mwyaf diogel i'r cerddor ieuanc ymdrechu ei gyrraedd."
Wedi cael ei farn ef am ei feistri, nid anniddorol fyddai cael eu barn hwythau amdano yntau; ac y mae eu barn hwy am ei gyfansoddiadau yn well amlygiad o'u hansawdd yn gymharol i'r dyddiau hynny nag unrhyw brisiad ohonynt gan feirniaid diweddarach, pan mae'r safon wedi newid.
Yn ei ad-drem gerddorol ar y flwyddyn 1867 ysgrifenna Ieuan Gwyllt yn Y Cerddor Cymreig:
Yng Nghymru ni chaed dim pwysig o'r newydd; ond llwyddodd un cerddor ieuanc i sicrhau ei le yn y dosbarth blaenaf o gyfansoddwyr ein gwlad. Gwyr y craffus mai cyfeirio yr ydym at Mr. David Emlyn Evans (Dewi Emlyn)."
Wele ran o'i feirniadaeth ar y Ganig, a'r Gân a Chytgan, y cyfeiriwyd atynt yn y bennod flaenorol:—
"Y Ganig:—Brwynog.—Y mae hon yn ganig