Cafodd ei ddymuniad o'r diwedd, a gadawodd Cheltenham yn derfynol yn 1869. Dychwelodd i Benybont, gan feddwl ymsefydlu mewn partneriaeth. â'i hen feistr. Ond yn union wedi gorffen y ffurfiau angenrheidiol i hyn, dyma'r busnes yn deilchion, a'i bartner—ac arian Emlyn!—yn dianc dros y Werydd. Yr oedd yn siomedigaeth dost iddo. Yn ffodus, digwyddodd yn rhy fuan ar ol ei ddychweliad i anafu ei gymeriad masnachol, ond cafodd ei hun a'i fwriad yn faluriedig, ac edefyn ei fywyd wedi ei dorri am y pryd. [1]
Wedi peth seibiant, ac amser i "gasglu ei hun at ei gilydd," ac i edrych oddiamgylch o o fysg gweddillion ei amcanion toredig, ymunodd â firm wlanen-wneuthurol Jones Evans & Co. yn y Drenewydd. Yr oedd yn ieuanc, yn meddu ar ewyllys gref, a galluoedd ymadferol (recuperative) eithriadol, fel y cawn ef, yn fuan wedi ei fynd yno yn 1870, yn arweinydd Cymdeithas Gorawl y lle.
Hyd yn hyn y mae ei gysylltiad â'r Eisteddfod a Chyfansoddiadaeth Gerddorol wedi tueddu i guddio o'n golwg ei berthynas â Chaniadaeth gorawl ac arall, a'i wasanaeth i'r eglwys a'r dref y perthynai iddynt. Yn wir, ychydig o fanylion a feddwn ynglŷn â'r agwedd hon ar ei weithgarwch ym Mhenybont a Cheltenham. Gwyddom ei fod yn aelod o gôr yr eglwys Annibynnol yn y ddau le, ac yn arweinydd am ryw gymaint o amser, ond pa hyd ni wyddom. Yn ol y Musical Herald, bu'n tenor soloist mewn datganiad o'r Messiah pan yn ddeunaw oed; a rhaid ei fod wedi. cael cryn brofiad fel arweinydd corawl, oblegid ynglŷn
- ↑ Teg yw dweyd i'r swm a dalodd am bartneriaeth, sef £4OO, gael ei dalu'n ôl iddo yn 1910, ond heb lôg.