Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel pe bawn yn ceisio darlunio rhywbeth prydferth, per ei arogl, megis y rhosyn; nis gallaf bron ond dweud—Yr oedd yn dlws, yn brydferth, a pher ei arogl. Byddai ei ddyfodiad atom i Bennal i weinidogaethu yn wledd cyn ei ddyfod bron. Yr oedd arogl y wledd yn codi eisiau bwyd. Caem y wledd hon ar y Sabboth, dair neu bedair gwaith bob blwyddyn. Ni chaem ein siomi yn ein disgwyliadau, oblegid yr oedd ei weinidogaeth yn flasusfwyd o'r fath a garem, bob amser. Yr oedd yn amlwg ei fod yn gwneuthur y goreu o'r hamdden dawel ar foreu Sabboth wrth dd'od yma, a bod ei feddwl gyda phethau mawr y diwrnod. Pan ddeuai i'r capel—yn loyw, ddisglaer, fel newydd ddyfod o'r mint—byddai ei ymddangosiad yn creu parchedigaeth ynom, ac yn foddion i'n dwyn yn fwy addolgar ac i barchu y dydd sanctaidd a'r ordinhadau. Byddai aelodau o bob enwad crefyddol yn teimlo felly, ac hyd yn nod rhai di grefydd yn teimlo graddau o'r un peth.

Ni theimlwn un amser yn fwy am fawr ddrwg pechod a graslonrwydd trefn Duw i achub nag wrth ei glywed ef. Yr oeddwn yn gwybod am dano er yn blentyn, ac am ei deulu crefyddol, a'i ddygiad i fyny da ymhob ystyr; gwyddwn na bu yn bechadur cyhoeddus, ond ei fod fel Timotheus wedi ei ddwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eto, wrth ei wrando gallasai yr anwybodus am dano feddwl ei fod wedi bod o fewn ychydig i bob drwg. Ond profi yr oedd hyn ei fod wedi ei wir argyhoeddi am dano ei hun gan Ysbryd Duw; ac yn wyneb ei gyflwr a'i drueni fel pechadur yr oedd yn mawrhau y Duw graslon am ei drefn ogoneddus o waredigaeth trwy Iesu Grist.

Yr oedd Mr. Jones fel pe yn byw efo Christ a'i apostolion, a'r gwragedd sanctaidd, ac yn parchu o'i galon bawb a ddangosent barch i Iesu Grist. Byddai ei ymddiddanion crefyddol a thosturiol am bawb, yn enwedig y cystuddiol a'r profedigaethus (cyn ei gystuddio ei hun) yn neillduol. Byddai yn holi yn