Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth, a ffug-chwedlau. Meddai gôf gafaelgar, a thoreth o ddawn i draethu ei feddyliau. Yr oedd yn bert a pharablus dros ben, ac yn ddigymhar am adrodd ystoriau. Yr oedd ganddo ystôr dihysbydd o hanesynau a chwedlau am bethau rhyfedd a digrifol, y rhai a adroddai gyda y fath hwyl i'w gyfeillion. Ymhyfrydai hefyd mewn chwarae triciau digrifol gydag amryw o'r rhai a gydweithiant âg ef." Nis gellir amau nad oedd ei frawd iau yn meddwl am dano pan yn desgrifio rhai o'r cymmeriadau mwyaf adnabyddus yn Rhys Lewis. Dyma fel y dywed am dano yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato uchod:-

"Nid oedd dim neilltuol yn fy chwiorydd; ond yr oedd fy mrawd Dafydd yn sicr yn un o'r bechgyn mwyaf talentog — yn naturiol — a anwyd yng Nghymru. Pe buasai genyf chwarter ei dalent, buaswn yn ddiolchgar. Ond - ïe; yr "ond" ydyw yr aflwydd! — ac nid oes eisieu son mwy am dano. Ni wnaeth efe niwed i neb ond iddo ei hun. Gwastraffodd ei athrylith mewn cylchoedd na ddylasai; ond cafodd — drwy hir gystudd — amser i edifarhau, a mi a gredaf iddo gael trugaredd."