Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychwelodd yn ol i'r Wyddgrug, ac aeth ar ei union o'r orsaf cyn myned adref, at Mr. John Angell Jones, mab ei hen feistr, i ymofyn gwaith. Ymafaelodd ar unwaith yn ei alwedigaeth, gan weithio ar y bwrdd fel cynt. Ceir yn ei ymddygiad yn yr holl amgylchiadau hyn ddangosiad o gymmeriad Daniel Owen gymaint a dim. Nis gallai feddwl am aros yn y Bala — er mor ddedwydd ydoedd — ar draul gadael ei hen fam a'i chwaer fethiantus yn ddiswcr, oblegid nid oedd yr ychydig a ennillid ganddynt hwy drwy gymmeryd i mewn ddillad i'w golchi yn ddigon i'w cynnal. Fel hyn bu yn gweithio a'i ddwylaw fel teiliwr am rai blynyddoedd wedi dychwelyd o'r Bala, a'r tebyg yw mai ei ofal ffyddlawn am ei fam a'i chwaer a barodd iddo aros yn ddi-briod. Arferai bregethu yn gyson ar y Sabboth, ac yn ol yr hyn a ysgrifenodd ef ei hun, cawn iddo fod yn pregethu yn ystod y tymhor hwn yn mhrif gapelau y Cyfundeb yn Ngogledd Cymru, ac yn amryw o drefi Lloegr, megis Liverpool a Manchester. Ystyrid ef yn bregethwr cymmeradwy, yn enwedig gan y dosbarth mwyaf deallgar o'r gwrandawyr, ac y mae adgofion am ei bregethu yn aros hyd heddyw mewn rhai manau. Testun y bregeth olaf a draddododd ydoedd, "Canys ni allai efe fod yn