Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

GODDEFER i ni amlygu ein diolchgarwch puraf am y cynorthwy sylweddol a dderbyniasom yn mharotoad y gwaith hwn, oddiwrth y Parch. William Lloyd, Caergybi; John C. Rees, Pensarn, ger Amlwch; M. O. Evans, Wrexham; Thomas E. Thomas, Coedpoeth; Owen Thomas, M.A., Llundain; F. P. Watkin Davies, M.A., Llanfachreth, ger Dolgellau; Mri. William Jones, Booth Street, Manchester; W. E. Williams (Gwilym Eden), Trawsfynydd; Josiah Thomas, Liverpool, a Mr. W. Rogers, Bryntirion, Coedpoeth, ac eraill, enwau pa rai a welir yn nghorff y gwaith. Dyledus yw i ni hefyd gydnabod ddarfod i ni wneuthur defnydd helaeth o gofiant gwerthfawr Mr. Williams, gan y Parchedig William Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog). Yn wir, darllen y gwaith rhagorol hwnw a gynyrchodd ynom awydd am wybod mwy o hanes y gwrthddrych, ac i'w roddi yn helaethach drwy gyfrwng y cofiant hwn. Unig ddiffyg y cofiant