Gwirwyd y dudalen hon
Diolchwn i'n brodyr yn y weinidogaeth, y rhai a fuont mor garedig a galw sylw eu cynulleidfaoedd at y gwaith hwn, i'r dosbarthwyr fuont yn casglu enwau ato, ac i'r rhai a anfonasant eu henwau yn bersonol, a chydrhyngddynt y maent yn llu mawr, fel y gwelir oddiwrth y rhestr ar ddiwedd y llyfr.
Bellach, nid oes genym ond dymuno ar i'r darlleniad o hono fod yn fendithiol i'w holl ddarllenwyr.
D. S. JONES,
BODALAW,
- CHWILOG, R.S.O.[1]
Dydd Llun, Gorphenaf 9fed, 1894.
- ↑ R.S.O.=Railway Sorting Office y man lle roedd trên y post yn gadael llythyrau i'w didoli ar gyfer ardal