Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai nid hawdd oedd ymadael o'r Talwrn, lle y treuliodd efe flynyddoedd dedwyddaf ei oes. Fodd bynag, gwawriodd y dydd ar yr hwn yr oedd hyny i gymeryd lle. Wedi i'r llwyth olaf o'r dodrefn fyned ymaith, dywedodd Mr. Williams, fod yn rhaid iddo gael cadw dyledswydd am y waith olaf am byth iddo ef, yn y lle hwnw fel ei gartref, a hyny a wnaeth efe yn ddwys ac effeithiol iawn. Diolchai am y bendithion lluosog a dderbyniasent fel teulu yn yr anedd hono. Erfyniai yn daer am arweiniad yr Arglwydd yn eu mynediad oddiyno. Dymunai am i fendith Duw orphwys ar y teulu oedd yn dyfod yno i'w holynu, ac ar fod i'r Beibl gael ei ddarllen ar yr aelwyd, tra y byddo careg ar gareg o'r hen gartref yn aros heb ei falurio. Tystiai Mr. Richard Pritchard, Rhos, yr hwn oedd wedi ei alw yno i gynorthwyo yn yr ymadawiad, fod y lle yn ofnadwy iawn pan yr oedd Mr. Williams yn gweddio.

Dymunol oedd gweled y teulu enwog yn ymadael yn swn y weddi deuluol, ac yn ngolwg mwg yr hen allor gysegredig; ac o dan arweiniad dwyfol Ragluniaeth, gweinyddiadau yr hon a deimlai Mr. Williams yn ddwys iawn fel yr amlygir hwynt yn yr Ysgrythyrau, ac yn amgylchiadau beunyddiol bywyd, yn gymaint felly, fel y dywed y Parch. Owen Evans, D.D., yn ei lyfr rhagorol ar Merched yr Ysgrythyrau, tudal 99, "Yr arferai ein gwrthddrych ddweyd na byddai ef byth yn gallu darllen