Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/554

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn dduwiol os nad yw yn amcanu gwneud eraill yn dduwiol.

4. Cysur i'r enaid ei hun feddwl ei fod am wneud lles i eraill.

IV. Y SEFYLLFA Y MAE'R FENDITH YN GOSOD DYN. "Mawrygaf hefyd dy enw."

1. Codaf dy enw yn fawr ar y ddaear.

2. Cei goffadwriaeth barchus am danat ar ol marw.

3. Cei enw mawr yn y nefoedd.

PREGETH XVI.

"DIYSTYRU Y BRIODAS."

"A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i'w faes, ac arall i'w fasnach," Mat. xxii. 5.

I. CAWN YMOFYN PA BRYD Y MAE DYNION YN DIYSTYRU Y BRIODAS.

1. Pan yn meddwl yn anfynych am dani.

2. Nid ydyw dynion yn siarad fawr am bethau. diystyr.

3. Nid yw pethau diystyr yn effeithio fawr ar feddyliau dynion.

4. Ni wna dynion ymdrafferthu fawr gyda phethau diwerth.

5. Ni hunanymwada dynion fawr gyda golwg ar bethau diwerth.

6. Nid yw dynion yn gofidio fawr fod eu teulu heb feddu pethau diwerth.

II. TRUENUSRWYDD A PHECHADURUSRWYDD YR YMDDYGIAD.

1. Maent yn gwrthod y peth goreu fedd Duw, sef Crist.

2. Gwrthod unig foddion cadw.