Wrth lywodraeth foesol yr wyf yn deall, dull Duw yn llywodraethu moesau neu ymddygiadau creaduriaid rhesymol. Yr ydym yn ei henwi felly er ei gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth naturiol Duw, sef y modd y mae yn llywodraethu yr elfenau a'r creaduriaid direswm drwy gyfreithiau natur a greddfau. Y dull y mae moesau y rhan ddeallawl o'r greadigaeth yn cael eu llywodraethu yw drwy weinidogaeth moddion moesol, sef cymhelliadau, deniadau, a bygythion. Iaith Duw yn y llywodraeth yw, "Dangosaf i ti ddyn yr hyn sydd dda." Er egluro natur y llywodraeth hon, gellir golygu:
1. Fod yr holl fodau deallawl yn y bydysawd yn cyfansoddi un gymdeithas fawr, ac fod y fath gysylltiad rhyngddynt â'u gilydd, fel y mae ymddygiad pob un o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd yn effeithio yn dda neu yn ddrwg ar gymdeithas oll, yn ol y sefyllfa y maent yn sefyll ynddi. Y berthynas hon sydd rhwng dynolryw â'u gilydd ydyw un o'r dangosiadau cryfaf o'r angenrheidrwydd am farn gyffredinol. Y mae rhai wedi dechreu ymarferiadau drwg, ac eraill wedi eu trosglwyddo yn mlaen o genedlaeth i genedlaeth; pan o'r tu arall y mae rhai wedi ymdrechu codi arferiadau da, ac wedi llafurio i'w cynal o oes i oes er lles cymdeithas. Yn awr, tuag at i bob un gael derbyn yn ol ei weithredoedd, rhaid galw rhyw gyfarfod cyffredinol i osod holl aelodau y