Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

George Lewis; y naill gyda'r Methodistiaid yn y Bala, a'r llall gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, yn llewyrchu goleuni gwybodaeth Ysgrythyrol yn y broydd hyn. Wrth gymeryd yr hyn a nodwyd i ystyriaeth, gwelir yn eglur, nad oedd y bobl ddim wedi eu gadael yn gwbl mewn tywyllwch heb ddim goleuni gwybodaeth hyd y pryd hwn, ond yn hytrach, eu bod yn rhodio yn ngoleuni llewyrch efengyl gogoniant y bendigedig Dduw. Rhoddodd un o'r enw Rhys Dafis, ysgolfeistr a phregethwr teithiol gyda'r Annibynwyr, ei gyhoeddiad i bregethu ar noswaith, mewn ty anedd o'r enw Bedd-y- Coedwr. Wedi i'r dydd a'i oruchwylion fyned heibio, wele y cymydogion gwledig a dirodres yn dyfod y naill ar ol y llall, dros y llechweddi serth, a'r llwybrau anhygyrch, gan gyfeirio eu camrau yn araf tua'r drigfan a enwyd. Wedi i Dafydd Dafis a Sarah Morris, gwr a gwraig y ty, daflu golwg ar y gynulleidfa, a chanfod, er dychryn iddynt, fod William, Cwmeisian Ganol, wedi dyfod yno, ac yn eistedd ar y gist fawr oedd gyferbyn a'r drws, ofnent iddo derfysgu yr oedfa, oblegid gwyddent am ei nwyfiant a'i ddireidi arferol. Wrth ei weled yn aflonyddu, aeth Lewis Richard Brynre, Pen-y- graig wedi hyny, at y bachgen, gan ddeisyfu arno yn dyner, i ddyfod yn nes i gyfeiriad y tân, ac felly y bu, cydsyniodd â'r gwahoddiad yn ddiwrthwynebiad. Erbyn hyny, yr oedd yn amser dechreu yr oedfa, a dacw y pregethwr yn cyfodi, ac yn rhoddi